Ymchwil

Cyflwr y chwarae: cynnydd hygyrchedd clybiau'r Uwch Gynghrair

Wedi ei gyhoeddi: 16 Mai 2018

Diweddarwyd diwethaf: 16 Mai 2018

Mae’r adroddiad hwn yn edrych a yw clybiau’r Uwch Gynghrair wedi cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl.

Gwnaethom edrych ar ba gynnydd a wnaed gan lawer o glybiau o ganlyniad i'n gwaith gyda nhw, a'r arweiniad a'r cyngor yr ydym wedi'u darparu iddynt.

Lle mae clybiau wedi methu, rydym yn nodi’r camau y maent wedi cytuno i’w cymryd er mwyn gwella.

Helpodd y prosiect hwn ni i ddeall yr heriau roedd y clybiau hyn yn eu hwynebu ac i ddysgu o'u profiadau.

Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i glybiau pêl-droed a darparwyr gwasanaethau eraill, yr Uwch Gynghrair a chyrff llywodraethu chwaraeon eraill. Mae'n rhannu arfer da sy'n berthnasol i glybiau pêl-droed eraill, chwaraeon eraill a lleoliadau eraill.

Gallwch hefyd wylio crynodeb Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r adroddiad ar YouTube.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau