Newyddion

Corff gwarchod cydraddoldeb yn helpu hawlwyr i ennill achos tribiwnlys nodedig yn erbyn British Airways

Wedi ei gyhoeddi: 19 Awst 2024

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi helpu hawlwyr yn erbyn British Airways (BA) i ennill achos tribiwnlys o bwys.

Mae’r achos yn cadarnhau cyfreithlondeb amddiffyniad rhag gwahaniaethu cysylltiadol anuniongyrchol, sydd bellach wedi’i gynnwys yn Adran 19A o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae gwahaniaethu cysylltiadol anuniongyrchol yn golygu bod polisi sy’n gwahaniaethu yn erbyn grŵp gwarchodedig, megis menywod oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr, hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai nad ydynt yn rhan o’r grŵp gwarchodedig hwnnw ond sy’n profi’r un anfantais. Yn yr enghraifft hon, dynion sy’n ofalwyr fyddai hynny.

Mae’r hawlwyr yn yr achos, 38 o gyn-aelodau o griw caban British Airways sy’n ceisio iawndal gwerth £515m, yn herio newidiadau a wnaeth y cwmni hedfan i’w telerau ac amodau cyflogaeth yn 2020.

Honnir bod y newidiadau hyn, gan gynnwys patrymau gwaith llai rhagweladwy a chyfnodau byrrach yn y cartref rhwng shifftiau, yn wahaniaethol. Er enghraifft, efallai y byddant yn gwahaniaethu yn erbyn pobl â chyfrifoldebau gofalu y mae angen iddynt wybod a fyddant gartref ai peidio er mwyn iddynt allu gwneud trefniadau gofalu amgen.

Gwrthwynebwyd dadleuon BA yn erbyn amddiffyniad rhag gwahaniaethu cysylltiadol anuniongyrchol gan yr hawlwyr, gyda chefnogaeth y EHRC. Fe wnaeth Llywodraeth y DU ymyrryd hefyd yn yr achos i ofyn i apêl BA gael ei gwrthod.

Cytunodd y Barnwr â'r corff gwarchod cydraddoldeb a gwrthododd apêl BA. Pe bai wedi bod yn llwyddiannus, gallai fod wedi paratoi’r ffordd ar gyfer her uniongyrchol i gyfreithlondeb Adran 19A.

 

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rydym yn croesawu’r dyfarniad yn yr achos hwn sy’n gwrthod apêl BA.

“Mae'r amddiffyniadau rhag gwahaniaethu cysylltiadol anuniongyrchol a roddir gan Adran 19A o'r Ddeddf Cydraddoldeb yn bwysig, ac mae'n iawn ein bod yn herio unrhyw gamau cyfreithiol a allai eu gwanhau.

“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, byddwn bob amser yn defnyddio ein pwerau i gynnal hawliau pobl i gael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu.”