Arweiniad

Cefnogi rheolwyr llinell: eich hanesion o gefnogi beichiogrwydd a mamolaeth

Wedi ei gyhoeddi: 10 Gorffenaf 2017

Diweddarwyd diwethaf: 10 Gorffenaf 2017

Yn yr astudiaethau achos hyn, gallwch ganfod beth mae aelodau Gweithio Blaengar, megis Nationwide a BT, wedi ei wneud i gefnogi eu rheolwyr llinell. 

Mitie: gwneud gweithio hyblyg yn llwyddiannus

"Wrth fod yn hyblyg, rhaid i ni wneud ein gorau glas i gadw’r bobl orau fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth o safon byd i’n cleientiaid."

Robyn Fisher, Partner Busnes Gwobrwyo ac Adnoddau Dynol

Nid yw gweithio hyblyg yn Mitie i rieni yn unig – mae’n agored i bawb, ac rydym yn sicrhau bod pawb yn gwybod hynny. Mae’r byd busnes yn newid o’n hamgylch a, chyda phwysau am ofod swyddfa, amseroedd teithio cynyddol a chyfathrebu gwell, mae angen i ni feddwl yn wahanol am sut yr ydym yn gweithio er mwyn ateb y galw. Mae ein busnes yn symudol: mae gennym nifer o safleoedd cleient, llawer o swyddfeydd a rhanbarth ddaearyddol fawr i’w gwasanaethu.

Rydym yn annog unrhyw un i ofyn am weithio’n hyblyg os dyna yw eu dymuniad. Rydym yn ystyried pob cais yn ofalus ac yn herio ein canfyddiad o’r hyn sydd yn bosibl. Rydym yn canfod ateb sydd yn gweithio i’r unigolyn ac i’r busnes, ac nid ydym yn ofni rhoi prawf ar drefn gweithio hyblyg. Os na fydd yn gweithio, yna dylai’r rhesymau am hynny fod yn dryloyw i bawb. Mae angen i’r ddwy ochr fod yn realistig am yr hyn sydd yn bosibl, ond os nad yw gweithio hyblyg yn opsiwn mewn un rôl, mae digon o gyfleoedd eraill yn ein swyddi gwag mewnol lle y gallai fod, sydd yn ein galluogi i gadw pobl dda ar draws y busnes.

Rydym am roi’r hyder a hyfforddiant i reolwyr i fod yn agored gyda’u timoedd ynglŷn â buddion a heriau gweithio hyblyg, i gofleidio sianeli cyfathrebu modern er mwyn rheoli trefniadau gweithio gwahanol, ac i werthfawrogi amrywiaeth o fewn eu tîm.

Mae ein hawgrymiadau gorau i gyflogeion a rheolwyr llinell yn cynnwys sefydlu galwadau Skype  os yw aelodau tîm yn treulio peth amser yn gweithio gartref, a threfnu cyfarfodydd priodol os yw aelodau tîm yn gweithio llai o oriau - gall mân bethau fel hyn wneud gwahaniaeth mawr. Gosodwch amcanion eglur ar gyfer aelodau tîm sydd yn gweithio’n hyblyg fel y byddan nhw bob amser yn gwybod yr hyn a ddisgwylir ganddyn nhw. O safbwynt polisi a phroses, sicrhewch fod gennych ddogfennau a chanllaw eglur, hawdd cael mynediad iddyn nhw ar gyfer rheolwyr a chyflogeion, fel y byddan nhw’n gwybod beth i’w wneud wrth geisio am weithio hyblyg neu drin cais amdano.

Yn Mitie, byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd newydd a gwahanol o addasu rolau i geisiadau am weithio hyblyg. Mae rhai o’r bobl orau am weithio’n hyblyg, felly mae angen i ni addasu ein canfyddiadau a’n ffyrdd o weithio i sicrhau ein bod yn eu cadw. 

BT: llunio llawlyfr mamolaeth

Mae arbenigwr cydraddoldeb, Sally Ward, a Rheolwr Cyffredinol Openreach, Jo Koroma, yn trafod llawlyfr mamolaeth newydd y mae BT wedi’i greu i gefnogi rheolwyr llinell wrth iddyn nhw ddelio â chyflogeion sydd yn feichiog neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth.

Cafodd y llawlyfr ei lunio ar y cyd gyda rhwydwaith menywod BT, gan ddefnyddio profiadau menywod, sydd wedi bod yn feichiog yn BT ac wedi cymryd absenoldeb mamolaeth, i helpu nodi cyngor ymarferol a’r awgrymiadau gorau ar gyfer rheolwyr llinell. Mae’n gymhares i lawlyfr cyflogeion. 

Diweddariadau tudalennau