Heddiw, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ganllawiau newydd i helpu’r sector cyhoeddus i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn eu polisïau, gan gynnwys penderfyniadau i gomisiynu a/neu ddefnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial (AI).
Mae gan bob sefydliad sector cyhoeddus ddyletswydd i sicrhau nad yw ei bolisïau yn arwain at wahaniaethu anghyfreithlon ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da. Mae awdurdodau lleol, adrannau’r llywodraeth, darparwyr addysg a gofal iechyd, gwasanaethau mewn lifrai, rheoleiddwyr, arolygiaethau ac ombwdsmyn ymhlith y rhai sy’n destun Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED).
Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, mae’r EHRC wedi cynhyrchu pecyn o gyngor i gefnogi’r sector cyhoeddus i ddeall effaith bosibl eu polisïau ar bobl â nodweddion gwarchodedig a gwneud penderfyniadau gyda’u rhwymedigaethau PSED mewn golwg.
Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys:
-
Canllawiau diwygiedig ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Diogelu Data. Mae hwn wedi’i ddiweddaru i ddarparu enghreifftiau o ddata y gellir eu defnyddio fel procsi ar gyfer nodweddion a warchodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn ogystal â chyngor ar sut y gall cyrff cyhoeddus sy’n prosesu data o’r fath gydymffurfio â’r PSED a chyfraith diogelu data (gan gynnwys yng nghyd-destun AI).
-
Amrywiaeth o astudiaethau achos sy’n dangos sut y gall awdurdodau lleol ystyried cydraddoldeb wrth gomisiynu a defnyddio technolegau AI; a
-
Canllaw cam wrth gam sy’n rhoi cyngor ymarferol i awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr, fel eu bod yn glir ynghylch sut i asesu effaith eu polisïau ar gydraddoldeb i fodloni gofynion cyfreithiol ac i ddangos arfer gorau. Mae hyn yn ategu’r canllawiau y mae’r Comisiwn eisoes wedi’u cyhoeddi i helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru a’r Alban i wneud hyn, yn unol â’r gwahanol ddyletswyddau penodol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.
Dywedodd John Kirkpatrick, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae gan ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol newydd y potensial i drawsnewid y modd y darperir y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Er y gall y technolegau hyn sy'n dod i'r amlwg wella'r gwasanaethau a ddarperir a lleihau costau, rydym hefyd yn gwybod y gall AI barhau â thuedd a gwahaniaethu pan gaiff ei weithredu'n wael.
“Mae’n hanfodol bod cyrff cyhoeddus yn ystyried yn ofalus yr effeithiau cadarnhaol a negyddol y gallai cyflwyno AI ei gael ar ddefnyddwyr gwasanaethau â nodweddion gwarchodedig. Bydd hyn yn helpu i atal gwahaniaethu anghyfreithlon ac yn sicrhau manteision gwirioneddol i gymunedau ledled Prydain.
“Rydym am helpu’r sector cyhoeddus i ddeall sut y gallant ddefnyddio AI yn gyfrifol, wrth gydymffurfio â’r PSED a deddfwriaeth diogelu data. Bydd y pecyn canllawiau yr ydym wedi’i gyhoeddi heddiw yn cefnogi cyrff y sector cyhoeddus i lywio’r heriau hyn drwy asesu a mynd i’r afael ag effaith eu polisïau ar gydraddoldeb”.
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com