Arweiniad

Cam Tri: Sicrhau bod y cwmni’n mynd i’r afael â’i risgiau amlycaf, neu fwy llym, i hawliau dynol ac yn darparu unioniad pan fo’i angen

Wedi ei gyhoeddi: 16 Awst 2019

Diweddarwyd diwethaf: 16 Awst 2019

Pan fydd cwmni wedi nodi’i risgiau hawliau dynol amlycaf fel rhan o’i sylw dyledus, dylai wedyn ystyried sut all eu hatal neu’u gostwng.

Dylai hefyd ddarparu unioniad os yw’n achosi neu gyfrannu at unrhyw niwed i hawliau dynol pobl.

Gall cwmniau ddefnyddio’u dylanwad i leihau risgiau hawliau dynol yn digwydd trwy’u cadwyni gwerth a pherthynas busnes arall. Dylai byrddau adolygu sut mae’u cwmniau yn lliniaru’r risgiau hyn, gan ddefnyddio mathau gwahanol o ddylanwad. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

Dylanwad masnachol:

gallai cwmniau: ddefnyddio telerau tendro, contractau neu gytundebau mentrau ar y cyd i osod safonau hawliau dynol, ac archwilio’u cadwyni cyflenwi i sicrhau eu bod yn cael ei roi ar waith; ac addo prisiau gwell neu fusnes yn y dyfodol i bartneriaid sydd yn bodloni safonau hawliau dynol. Pan fydd effeithiau llym yn parhau er waethaf yr ymdrechion i’w lliniaru, dylai cwmniau ystyried dod â’r berthynas fusnes i ben.

Dylanwad busnes:

gall cwmniau wella safonau ac arferion busnes eu cyflenwyr trwy hyfforddi, integreiddio safonau rhyngwladol neu ddiwydiant i drafodaethau, a chyflwyno neges gyson i bartneriaid am eu hymagwedd i hawliau dynol ar draws pob lefel ac adran y cwmni.

Dylanwad trwy weithredu gyda chyfoedion:

gall cwmniau weithio gyda’u cyfoedion i lunio atebion ar y cyd i heriau hawliau dynol a rennir, er enghraifft, gallant gytuno ar ofynion safonol i gyflenwyr neu safbwynt cyhoeddus ar y cyd ar safonau hawliau dynol wrth drafod â llywodraeth.

Dylanwad trwy weithredu drwy sefydliadau lleol a rhyngwladol:

i leihau risgiau hawliau dynol gallai cwmniau helpu adeiladu sgiliau a gwybodaeth cymdeithasau diwydiant lleol, annog arferion gorfodi gwell gan lywodraethau lleol, a gweithio gyda llywodraethau ac asiantaethau rhyngwladol i annog cyfraith ac arferion sydd yn amddiffyn hawliau dynol.

Dylanwad trwy fentrau amlranddeiliad:

gall cwmniau gydweithio â busnes, llywodraethau, sefydliadau cymdeithas rhyngwladol a sifil i ddatblygu, rhoi ar waith a monitro safonau diwydiant, neu sefydlu strategaethau ar y cyd ar gyfer taclo heriau systemig.

Lle mae cwmni yn nodi ei fod wedi achosi neu gyfrannu at effaith negyddol ar hawliau dynol, mae ganddo gyfrifoldeb i ddarparu unioniad amserol ac effeithiol i’r bobl a effeithiwyd arnynt. Dylai byrddau sicrhau fod gan y cwmni brosesau teg a thryloyw ar waith i dderbyn a mynd i’r afael â chwynion sydd yn hygyrch i’r rheini, efallai, y cafodd eu hawliau dynol eu heffeithio gan weithgareddau’r cwmni.

 

Diweddariadau tudalennau