Arweiniad

Cam Pedwar: Sicrhau bod y cwmni yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio’i ymagwedd at fynd i’r afael â risgiau hawliau dynol

Wedi ei gyhoeddi: 16 Awst 2019

Diweddarwyd diwethaf: 16 Awst 2019

Fel rhan o’i sylw dyledus i hawliau dynol, dylai’r cwmni siarad ag ystod eang o randdeiliaid i’w helpu i:

  • nodi risgiau ac effeithiau hawliau dynol yn gywir, a gweithredu’n ffeithiol i fynd i’r afael â nhw
  • deall sut mae rhanddeiliaid yn canfod y camau a gymera’r cwmni i reoli a lliniaru risgiau ac ôlrhain eu heffeithiolrwydd, ac
  • integreiddio’r mewnwelediadau hyn i broses penderfynu ac arferion y cwmni.

Mae mathau gwahanol o randdeiliaid yn cynnig canfyddiadau gwahanol o weithrediadau ac effeithiau cwmni. Maent yn cynnwys:

  • pobl a effeithir yn uniongyrchol gan weithgareddau cwmni, megis staff, gweithwyr yn y gadwyn gyflenwi a’u cynrychiolwyr undeb, cymunedau lleol a’u harweinyddion
  • arbenigwyr sydd yn deall safbwyntiau a gofidion grwpiau lleol, megis sefydliadau anllywodraethol ac ymchwilwyr.
  • arbenigwyr sydd yn deall materion hawliau dynol mewn diwydiant arbennig neu mewn rhanbarthau daearyddol uchel eu risg, megis sefydliadau anllywodraethol cenedlaethol a rhyngwladol ac undebau llafur, a buddsoddwyr sydd yn gyfrifol yn gymdeithasol, cyfreithwyr ac ymgynghorwyr.

 

Dylai’r bwrdd sicrhau fod strategaeth ymgysylltu’r cwmni:

  • yn annog natur agored i ymgysylltu â phob grŵp rhanddeiliad, gan gynnwys beirniaid
  • yn creu sianelu ar gyfer cyfathrebu â grwpiau sydd â diffyg dylanwad ond gallai fod yn fwy bregus i effeithiau
  • yn meithrin perthynas adeiladol ar gyfer deialog yn hytrach nag ymgysylltu’n unig pan ei fod o fudd i’r cwmni
  • yn cael ei gyflenwi gan staff sydd â’r sgiliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol
  • yn ategu integreiddio adborth rhanddeiliaid i broses gwneud penderfyniadau’r cwmni, ac
  • yn cynnwys rhanddeiliaid a effeithiwyd gan risgiau hawliau dynol wrth ddylunio a hybu trefniadau’r cwmni ar gyfer delio â chwynion ac achwyniadau.

 

Diweddariadau tudalennau