Arweiniad

Cam Bump: Sicrhau bod y cwmni yn adrodd ar ei risgiau hawliau dynol amlycaf ac yn cyflawni gofynion adrodd rheoleiddiol

Wedi ei gyhoeddi: 23 Awst 2019

Diweddarwyd diwethaf: 23 Awst 2019

Mae Egwyddorion Arweiniol y CU yn ei wneud yn eglur y dylai cwmnïau adrodd ar sut maent yn mynd i’r afael â risgiau hawliau dynol difrifol, h.y. eu materion hawliau dynol amlycaf. Galluoga’r Egwyddorion Arweiniol i gwmnïau gyhoeddi’n gyhoeddus sut maent yn cyflawni’u hymrwymiad i barchu hawliau dynol i ystod eang o randdeiliaid mewn naratif cydlynol.

Mae adrodd yn galluogi’r:

  • cwmni i egluro’n gyhoeddus sut mae’n cyflawni’i ymrwymiad i barchu hawliau dynol i ystod eang o randdeiliaid mewn naratif cydlynol
  • cwmni i gydymffurfio â gofynion adrodd rheoleiddiol ac i arddangos ei fod yn cymryd camau rhesymol i fynd i’r afael â risgiau hawliau dynol
  • rhanddeiliaid i werthuso pa mor dda mae’r cwmni’n deall a rheoli risgiau hawliau dynol ac arddangos bod ei ymrwymiad polisi yn cael ei adlewyrchu ar waith, a
  • buddsoddwyr, partneriaid busnes a chyflogeion i nodi’r cwmni fel buddsoddiad/partner/cyflogwr o ddewis.

Gall cwmni adrodd ar ei faterion hawliau dynol amlycaf yn ei adroddiad blynyddol, adroddiad cynaliadwyedd neu adroddiad annibynnol. Pa fodd bynnag fydd yr adrodd, dylai fod yn hawdd i randdeiliaid ddod o hyd iddo ar wefan y cwmni a’i fod wedi’i ysgrifennu mewn modd sydd yn hygyrch i bob darllenwr.

I gyflawni’r Egwyddorion Arweiniol, dylai adrodd hawliau dynol y cwmni:

  • ganolbwyntio ar ei faterion hawliau dynol amlycaf ac egluro pam a sut wnaeth bennu’r ffocws hwn
  • dangos sut wnaeth rhoi ei ymrwymiad i hawliau dynol ar waith yn ymarferol ar draws ei arferion busnes
  • trafod sut mae’r cwmni yn taclo heriau hawliau dynol penodol a darparu enghreifftiau clir a pherthnasol yn dangos sut mae’i gamau’n dylanwadu ar ganlyniadau hawliau dynol, a
  • chynnwys dangosyddion perfformiad neu fetrigau eraill sydd yn cynnig tystiolaeth dros amser.

Mae Fframwaith Egwyddorion Arweiniol y CU yn cynnig man cychwyn da ar sut ddylai cwmnïau adrodd a rheoli’u materion hawliau dynol amlycaf. Ceir crynodeb o ofynion adrodd statudol y DU ar y dudalen nesaf.

 

 

Diweddariadau tudalennau