Sut i roi gwybod am hysbyseb gwahaniaethol
Wedi ei gyhoeddi: 30 Mawrth 2020
Diweddarwyd diwethaf: 30 Mawrth 2020
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Beth yw hysbyseb gwahaniaethol?
Mae hysbyseb yn hysbysiad neu gyhoeddiad, yn ysgrifenedig neu ar lafar, yn hyrwyddo cyfle gwaith, cynnyrch, gwasanaeth neu ddigwyddiad.
Gall hysbysebion ymddangos mewn papurau newydd, cylchgronau, ar y teledu, radio, ar-lein, mewn ffenestri siopau ac mewn e-byst.
Mae hysbysebion sy’n cyfyngu swyddi neu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i bobl â nodweddion gwarchodedig penodol, fel dynion neu bobl o grŵp oedran penodol, yn anghyfreithlon ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) am ragor o wybodaeth ynghylch a allai hysbyseb fod yn wahaniaethol ai peidio.
Rhaid edrych ar hysbyseb yn ei gyfanrwydd. Gall disgrifiadau, teitlau swyddi, darluniau a lluniau sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig penodol fod yn wahaniaethol, gan y gallent awgrymu mai dim ond pobl â’r nodweddion hynny sy’n gymwys ar gyfer y swydd neu’r gwasanaeth sy’n cael ei hysbysebu.
Sut mae rhoi gwybod amdano?
I gwyno i'r hysbysebwr neu'r cyhoeddwr am hysbyseb gwahaniaethol, gweler ein canllawiau ar wneud ymholiad am hysbyseb gwahaniaethol.
Ni fyddwn yn cysylltu â chi ynghylch a allai fod gennych hawliad o ganlyniad i unrhyw golled neu anfantais y gallech fod wedi'i ddioddef oherwydd yr hysbyseb. Dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth Cynghori ar Gydraddoldeb (EASS) yn uniongyrchol os oes angen rhagor o gyngor neu gymorth arnoch.
Lawrlwythiadau dogfen
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
30 Mawrth 2020
Diweddarwyd diwethaf
30 Mawrth 2020