Arweiniad

Ymddygiad staff

Wedi ei gyhoeddi: 11 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 11 Ebrill 2016

Mae sut mae pobl sy’n gweithio i ddarparwr gwasanaethau yn ymddwyn tuag atoch o ran eich nodweddion gwarchodedig yn bwysig iawn. Yn aml bydd yr hyn mae staff yn ei wneud (neu ddim yn ei wneud) yn gwneud gwahaniaeth o ran a ydynt yn darparu gwasanaethau ar eich cyfer heb wahaniaethu’n anghyfreithiol, aflonyddwch neu erledigaeth ac a ydynt yn gwneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer os ydych yn unigolyn anabl.

Mae hyn yn wir nid yn unig am sefyllfaoedd lle y mae pobl yn delio’n uniongyrchol â chi, ond hefyd am y ffordd maen nhw’n cynllunio eu gwasanaethau.

Pan mae rhywun yn cynllunio gwasanaethau, gallent wneud penderfyniad, gweithredu rheol neu weithio ffordd o wneud pethau fydd yn effeithio sut rydych chi’n cael mynediad at eu gwasanaethau. Os yw hyn yn cael effaith waeth arnoch chi a phobl eraill a chanddynt nodwedd warchodedig benodol nac ar bobl heb y nodwedd honno, bydd hynny’n wahaniaethu anuniongyrchol oni allant gynnig cyfiawnhad gwrthrychol dros y penderfyniad, rheol neu ffordd o wneud pethau.

Nid yw cyfraith cydraddoldeb yn dweud sut yn union ddylai sefydliad ddweud wrth ei staff sut i ymddwyn er mwyn osgoi gwahaniaethu anghyfreithiol, aflonyddu ac erledigaeth. Ond mae’n amlwg fod sefydliad sy’n methu gwneud hyn mewn perygl o gael eu dal yn gyfreithiol gyfrifol gan lys am wahaniaethu anghyfreithiol, aflonyddu neu erledigaeth a gyflawnwyd gan ei staff.

Arfer da cydraddoldeb: beth i chwilio amdano

Os yw cydraddoldeb yn bwysig ichi, chwiliwch am sefydliadau sy’n rhoi gwybod ichi am eu polisi cydraddoldeb a’r hyfforddiant cydraddoldeb maen nhw’n ei roi i’w staff, neu am ffyrdd eraill maen nhw’n gosod safonau i’w staff eu cyrraedd fel nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn cwsmeriaid, cleientiaid, defnyddwyr gwasanaethau, aelodau neu westeion.

Mae gweddill y canllaw hwn yn rhoi mwy o wybodaeth ichi am y safonau y gallwch eu disgwyl mewn sefyllfaoedd penodol neu wrth ddelio â math penodol o ddarparwr gwasanaethau.

Diweddariadau tudalennau