Ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol: ar gyfer cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 19 Gorffenaf 2019

Diweddarwyd diwethaf: 19 Gorffenaf 2019

Pam cymryd ymagwedd hawliau dynol?

Wrth gymryd ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol, gall cynlluniau obwdsmon osod hawliau’r bobl, y maent yn eu gwasanaethu, yn ganolog i’w gwaith.

Mae’r ymagwedd yn sicrhau bod ombwdsmyn yn diogelu unigolion ac yn helpu’r sefydliadau y maent yn eu dal i gyfrif ddefnyddio’r egwyddorion, gwerthoedd a safonau hawliau dynol yn effeithiol.

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gymwys i:

  • bob awdurdod cyhoeddus, a
  • phob corff arall, boed cyhoeddus neu breifat, sy’n gwneud swyddogaethau cyhoeddus

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus fel ysbytai GIG neu’r heddlu ddilyn y Ddeddf Hawliau Dynol ym mhopeth a wnânt. Mae hyn hefyd yn cynnwys agweddau preifat eu busnesau, fel gwneud contractau cyflogaeth. Dim ond pan eu bod yn ymgymryd â’u swyddogaethau cyhoeddus y mae rhaid i sefydliadau preifat neu elusennau ddilyn y Ddeddf Hawliau Dynol.

Boed yn uniongyrchol neu anuniongyrchol, nod pob ombwdsmom yw amddiffyn hawliau dynol unigolion. Mae cynlluniau ombwdsmon yn archwilio camweinyddu, ac yn edrych am unioniad pan fydd anghyfiwander wedi digwydd o’i herwydd.

Gall rhoi diffyg sylw i hawliau dynol fod yn gamweinyddu. Gallai methiant i gynnal hawliau dynol fod yn gamweinyddu hefyd. Yn y ddau achos, gall gyfeirio at hawliau dynol fod yn ffordd bwerus i fynegi anghyfiawnder a chamweinyddu ill dau.

Bydd ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol yn helpu trinwyr achos i benderfynu p’un ai a derbyn cwyn, ei harchwilio, ac adrodd ar eu canlyniadau. Bydd yn eu helpu i nodi:

  • pryd a pha hawliau dynol sy’n berthnasol i gŵyn
  • rhwymedigaethau hawliau dynol sefydliadau mewn achos o gŵyn
  • lle nad yw sefydliadau wedi cyflawni’u rhwymedigaethau hawliau dynol i achwynwyr

Mae cynlluniau ombwdsmon am wireddu cyfiawnder ac unioni pethau pan ânt o chwith. Bydd ymagwedd hawliau dynol yn sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a gweithrediadau wedi’u llunio i barchu, amddiffyn a chyflawni hawliau dynol.

Sut i gymryd ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol

Bydd ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol yn rhoi’r unigolyn a’i hawliau yn ganolog i’r broses.

Asesu cwyn

Wrth asesu cwyn, dylech ystyried a wnaeth y sefydliad weithredu yn unol â’r gyfraith a pharchu hawl yr unigolyn.

Yn gyntaf mae rhaid sefydlu ffeithiau’r gŵyn:

  • ystyriwch brofiad yr achwynydd
  • deallwch y ffeithiau o’u safbwynt nhw
  • ystyriwch a wnaethant sôn am degwch, parch, cydraddoldeb, urddas neu annibyniaeth (gwerthoedd FREDA)
  • gofynnwch i’ch hunan os yw eu llais wedi’i glywed
  • canfyddwch os ydynt o’r farn bod y sefydliad wedi mynd i’r afael â’u gofidion, wedi’u hateb a’u hunioni

Heb dynnu ar gasgliadau gan yr achwynydd, dylech sefydlu os yw hawliau dynol yn berthnasol yn yr achos hwn. Gallwch chwilio am hawliau dynol perthnasol posib yn ôl sector a phwnc. Weithiau bydd materion hawliau dynol yn amlwg; weithiau bydd yr achwynydd o’r farn eu bod yn berthnasol, ond nid dyna yw eich barn chi.

Dylech dynnu sylw at faterion hawliau dynol yn nyddiau cynnar yr asesiad, a nodi os yw eich asesiad yn wahanol i farn yr achwynydd.

Os yw hawliau dynol yn berthnasol, gallwch wedyn nodi’r  fframwaith polisi y dylai’r darparwr gwasanaeth fod wedi rhoi sylw dyledus iddo.

Ar wahân i hyn, bydd rhaid i gŵyn fodloni’r holl ofynion statudol i fynd rhagddi i’r cam archwilio.

Archwilio cwyn

Pan dderbynnir cwyn ar gyfer ei harchwilio, dylech geisio ymateb gan y sefydliad dan sylw i bob un o’r materion.

Gallai hyn gynnwys tystiolaeth ddogfen, megis cynlluniau gofalu, cofnodion meddygol, gohebiaeth berthnasol, a chopïau o weithdrefnau, polisïau a chanllaw’r sefydliad.

Efallai byddwch am ystyried:

  • arweinyddiaeth y sefydliad a’i ymrwymiad i hawliau dynol
  • hyfforddiant staff y sefydliad a monitro mewn perthynas â pholisïau a chanllaw hawliau dynol
  • blaenoriaeth y sefydliad o’i adnoddau tuag at y rhai mwyaf bregus
  • dealltwriaeth wirioneddol y sefydliad o hawliau dynol
  • ystyriaeth y sefydliad o unrhyw hawliau croes i’w gilydd
  • ystyriaeth y sefydliad o gyfiawnhad a chymesuredd wrth gyfyngu hawl

Os nad yw’r dystiolaeth yn dangos bod y sefydliad wedi rhoi sylw dyledus i nodweddion hawliau dynol amlycaf yr achos, megis amgylchiadau personol neu fregusrwydd, dymuniadau personol, parch, urddas ac annibyniaeth, efallai bydd rhaid i chi fynd yn ôl i’r sefydliad a gofyn yn fwy penodol am sut oeddent wedi rhoi sylw dyledus i hawliau dynol yr achwynydd.

Efallai bydd angen i chi gyfeirio at arbenigwr annibynnol i asesu tystiolaeth dechnegol neu feddygol neu’r gyfraith.

Gallai un o dri rheswm fod yn gyfrifol am y diffyg tystiolaeth yn dangos sylw dyledus sefydliad ar gyfer hawliau dynol:

  • ni chafodd hawliau dynol eu hintegreiddio’n iawn i’w  bolisïau, gweithdrefnau neu ganllaw
  • ni ddilynodd ei bolisïau ei hunan yn ddigonol, na’i weithdrefnau na’i ganllaw
  • ni chafodd ei bolisïau ac ymarfer eu hadlewyrchu’n iawn yn ei ddogfennaeth

Dadansoddi ac adrodd

Gallwch ofyn i’ch gilydd:

  • beth oedd rhwymedigaethau hawliau dynol y darparwr gwasanaeth
  • pa mor dda wnaethant ateb y rhwymedigaethau hynny
  • pam wnaeth fethu ateb unrhyw rwymedigaethau
  • beth oedd effaith y methiant hwnnw
  • a oedd hawliau croes i’w gilydd ar waith a sut wnaeth y darparwr gwasanaeth ddelio ag hynny
  • a oedd yr hawl yn un cyfyngedig
  • a ellid cyfiawnhau gweithred y darparwr gwasanaeth i gyfyngu’r hawl ac a oedd hynny’n gymesur

Unwaith i chi gael yr holl wybodaeth, dylech benderfynu a fu unrhyw gamweinyddu neu anghyfiawnder. Dylech ofyn i chi’ch hunan:

  • a ellid fod wedi osgoi problemau neu’u hatal
  • sut y gellid gwella polisïau a gweithdrefnau
  • beth fu’r effaith ar yr achwynydd
  • sut gellid unioni’r mater

Casgliadau ac argymhellion

Mae ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol yn rhoi profiad yr achwynydd yn ganolog wrth geisio unioniad.

Os na chafodd hawliau dynol eu parchu, dylid sôn am hynny’n glir yn eich casgliadau a’ch argymhellion. Dylid rhoi gwybod i’r darparwr gwasanaeth yn ddiamwys yr hyn yw ei rwymedigaethau o dan bob un o’r hawliau perthnasol, a beth sydd raid iddo ei wneud i’w cyflawni.

Hefyd ddylech bwysleisio mai’r methiant i roi sylw dyledus i hawliau dynol oedd y rheswm i chi bennu camweinyddu.

Cwynion a wnaed ar ran rywun

Weithiau gwneir cwyn ar ran rywun, gan olygu nad yw’r achwynydd yr un peth â’r ‘person sy’n tybio iddo gael cam’ (yr unigolyn sydd yn destun i’r gŵyn). Mae’r rhesymau y gallai hyn ddigwydd yn cynnwys:

  • mae’r person sy’n tybio iddo gael cam wedi marw
  • babi neu blentyn yw’r person sy’n tybio iddo gael cam
  • rhiant neu warcheidwad yw’r achwynydd sydd o’r farn ei fod mewn man gwell i wneud y gŵyn
  • byddai cyflwyno cwyn yn rhy feichus i’r person sy’n tybio iddo gael cam

Mae ymagwedd ar sail hawliau dynol yn galw am sensitifrwydd wrth drin yr achosion hyn, oherwydd y posibilrwydd y daw'r gŵyn ag anhawster a phwysau pellach i’r person sy’n tybio iddo gael cam. Rhaid i chi hefyd dawelu meddwl yr achwynydd nad yw ei uniondeb/huniondeb ar brawf ac ni chaiff ei ofidion/gofidion eu hanwybyddu.

Mae hefyd yn galw y caiff pob ymdrech rhesymol ei wneud i gyfathrebu’n uniongyrchol â’r person sy’n tybio iddo gael cam bryd bynnag bydd yn bosib, gan sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth yn gysylltiedig â’r gŵyn. Os ategir y gŵyn bydd hefyd yn eich helpu i’w hunioni a gwneud argymhellion.

Dylech:

  • drafod â’r achwynydd am y posibilrwydd o siarad â’r person sy’n tybio iddo gael cam i ganfod os yw’n briodol gwneud hynny,
  • canfod sut y gellid cysylltu ag ef a’r ffordd fwyaf priodol o wneud hynny (megis drwy ysgrifennu ato, ei ffonio neu siarad ag ef yn bersonol)
  • gofynnwch ag oes eisiau mesurau arbennig (er enghraifft, cyfieithydd)
  • tawelu meddwl yr achwynydd mai pwrpas y cysylltu fyddai sicrhau bod profiad y person sy’n tybio iddo gael cam yn ganolog i’r achos a’r unioniad (os yn briodol)
  • cofnodi’r hyn a drafodwyd a chytunwyd arno

Weithiau, ni fydd yn bosib cysylltu â’r person sy’n tybio iddo gael cam ac ni fydd yn synhwyrol i wneud hynny. Dylid osgoi gwneud hynny os daw a thrallod neu niwed pellach.

Cyfarpar ymarferol

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon (NIPSO) wedi datblygu cyfarpar i helpu ei thrinwyr achos gymryd ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol wrth asesu cwynion.

Lawr lwytho cyfarpar sgrinio asesiadau cwynion ymagwedd seiliedig ar hawliau dynol NIPSO

Diweddariadau tudalennau