Arweiniad

Y ddyletswydd barhaus ar sefydliadau

Wedi ei gyhoeddi: 6 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 6 Ebrill 2016

Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn ddyletswydd barhaus. Nid yw’n rhywbeth y mae angen ei ystyried unwaith ac unwaith yn unig, ac yna’i anghofio.

Os yw unigolyn anabl eisiau defnyddio gwasanaethau sefydliad ond yn wynebu rhwystrau, mae angen i’r sefydliad feddwl am addasiadau rhesymol. Mae hyn yn wir a wnaeth addasiadau yn barod ai peidio.

Os yw sefydliad yn newid yr hyn mae’n ei wneud, y ffordd mae’n ei wneud neu’n symud adeiladau neu’n gwneud newidiadau i’r eiddo y mae ynddo’n barod, mae angen iddo adolygu’r addasiadau a wnaeth. Efallai nad yw’r hyn oedd yn wreiddiol yn gam rhesymol i’w gymryd yn ddigon mwyach.

Er enghraifft:

Mae canolfan chwaraeon fawr yn newid ei pholisi ‘dim cŵn’ er mwyn caniatáu mynediad i gŵn tywys. Mae’n cynnig taith o’r ganolfan i ddefnyddwyr cŵn tywys fel eu bod yn gyfarwydd â llwybrau. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol iddo orfod ei gymryd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r ganolfan wedyn yn dechrau gwneud gwaith adeiladu ac mae hyn yn tarfu ar lwybrau yn y ganolfan, sy’n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr cŵn tywys ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas. Felly, nid yw cynnig taith esboniadol mwyach yn addasiad effeithiol gan nad yw’n gwneud y ganolfan yn hygyrch i ddefnyddwyr cŵn tywys. Felly, mae’r darparwr gwasanaethau yn penderfynu cynnig cymorth ychwanegol priodol gan staff i ddefnyddwyr cŵn tywys tra bod y gwaith adeiladu’n mynd yn ei flaen. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r darparwr gwasanaethau orfod ei gymryd o dan yr amgylchiadau ar y pryd.

Yn yr un modd, gallai cam oedd yn y gorffennol yn un afresymol i sefydliad orfod ei gymryd ddod yn gam rhesymol oherwydd bod amgylchiadau wedi newid. Er enghraifft, gall datblygiadau technolegol ddarparu datrysiadau newydd neu well i broblemau gwasanaethau anhygyrch.

Er enghraifft:

Mae gan lyfrgell nifer fechan o gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd. Pan gafodd y cyfrifiaduron eu gosod yn wreiddiol, edrychodd y llyfrgell ar y dewis o gynnwys meddalwedd llefaru testun ar gyfer pobl a chanddynt anhwylder gweld. Gwrthododd y dewis hwnnw ar y pryd oherwydd bod y feddalwedd yn ddrud iawn ac nad oedd yn arbennig o effeithiol. Ni fyddai wedi bod yn gam rhesymol i’r llyfrgell orfod ei gymryd bryd hynny. Mae’r llyfrgell yn bwriadu prynu cyfrifiaduron newydd. Mae’n gwneud ymholiadau ac yn cael gwybod bod meddalwedd llefaru testun erbyn hyn yn effeithlon ac o fewn cyllideb y llyfrgell. Mae’r llyfrgell yn penderfynu gosod y feddalwedd ar y cyfrifiaduron newydd. Mae hwn yn debygol o fod yn gam rhesymol i’r llyfrgell orfod ei gymryd ar y pryd.

 

Diweddariadau tudalennau