Arweiniad

Tri gofyniad y ddyletswydd

Wedi ei gyhoeddi: 6 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 6 Ebrill 2016

Mae’r ddyletswydd yn cynnwys tri gofyniad sy’n berthnasol i sefyllfaoedd ble y byddai unigolyn anabl fel arall yn cael eu rhoi dan anfantais sylweddol o’i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl. Mae’r ddyletswydd ychydig yn wahanol i gymdeithasau, o ran rheoli adeiladau, ac ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth. Esbonnir y gwahaniaethau hyn ar ddiwedd yr adran hon.

Ar gyfer y rhan fwyaf o sefydliadau ac yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd:

  • Mae’r gofyniad cyntaf yn golygu newid y ffordd y gwneir pethau (mae cyfraith cydraddoldeb yn siarad am ble y gosodir y defnyddiwr gwasanaethau anabl dan anfantais sylweddol gan ddarpariaeth, maen prawf neu arfer y darparwr gwasanaethau).
  • Efallai y bydd gan sefydliad reolau neu ffyrdd o wneud pethau, boed yn ysgrifenedig neu’n anysgrifenedig, sy’n creu rhwystrau ichi fel unigolyn anabl.
     

Gallent eich rhwystro rhag defnyddio’r gwasanaeth yn gyfan gwbl, neu ei gwneud yn afresymol o anodd ichi i’w ddefnyddio.
Oni ellir cyfiawnhau’r arfer, gallai fod yn rhesymol i’r sefydliad roi gorau iddo’n gyfan gwbl, neu i’w newid fel nad yw mwyach yn cael yr effaith honno.

Er enghraifft:

  • Mae gan glwb preifat bolisi o wrthod mynediad gyda’r nos i aelodau gwrywaidd nad ydynt yn gwisgo crys a thei. Mae aelod anabl sy’n awyddus i fynd i’r clwb yn ystod y nos yn methu gwisgo tei oherwydd bod ganddo soriasis (cyflwr croen difrifol) ar ei wyneb a’i wddf. Oni bai fod y clwb yn fodlon newid ei bolisi ar gyfer yr aelod hwn o leiaf, ei effaith fydd eithrio’r aelod anabl o’r clwb. Mae hyn yn debygol o fod yn fethiant anghyfreithiol i wneud addasiad rhesymol.
  • Mae siop yn cael adborth gan gwsmer a chanddi greithiau ar ei hwyneb oherwydd llosgiadau difrifol fod y ffordd y mae ei staff yn ymwneud â hi wedi gwneud iddi deimlo’n anghyfforddus a’u bod wedi methu darparu gwasanaeth cymwynasgar. Mae’r siop yn penderfynu cyflwyno hyfforddiant ar ymwybyddiaeth anabledd, gyda phwyslais arbennig ar faterion anffurfiad, er mwyn gwella gwasanaeth ei staff i gwsmeriaid. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i’w wneud.

Mae’r ail ofyniad yn golygu gwneud newidiadau i oresgyn rhwystrau a grëir gan nodweddion ffisegol adeiladau sefydliad, os ydynt yn agored i’r cyhoedd neu i ran o’r cyhoedd.

Pan mae nodwedd ffisegol yn rhoi pobl anabl sy’n defnyddio gwasanaeth o dan anfantais sylweddol, mae’n rhaid i sefydliad gymryd camau rhesymol i:

  • gael gwared â’r nodwedd
  • ei newid fel nad yw mwyach yn cael yr effaith honno
  • darparu ffordd resymol o osgoi’r nodwedd, neu
  • ddarparu ffordd amgen resymol o wneud y gwasanaeth ar gael i bobl anabl.

Mae’n well i sefydliad geisio cael gwared neu newid y nodwedd ffisegol neu ddod o hyd i ffordd o’i hosgoi (fel gosod ramp yn lle grisiau neu, os yw’n rhesymol iddo wneud hyn, lifft) cyn iddo ystyried darparu gwasanaeth amgen. Efallai na fydd gwasanaeth amgen yn rhoi lefel gyffelyb o wasanaeth ichi.

Bydd pa fathau yn union o newidiadau fydd eu hangen yn dibynnu ar y math o rwystrau sydd yn yr adeilad. Mae angen i sefydliad edrych ar yr adeilad cyfan sydd yn agored i’r cyhoedd neu i ran o’r cyhoedd, ac efallai y bydd rhaid iddo wneud mwy nac un newid.

Mae nodweddion ffisegol yn cynnwys: grisiau, grisffyrdd, cyrbau, wynebau allanol a phalmant, mannau parcio, mynedfeydd ac allanfeydd adeiladau (gan gynnwys llwybrau dianc), drysau mewnol ac allanol, clwydi, cyfleusterau toiled ac ymolchi, cyfleusterau cyhoeddus (fel ffonau, cownteri neu ddesgiau gwasanaethu), goleuo ac awyru, lifftiau a grisiau symudol, gorchudd lloriau, arwyddion, celfi ac eitemau dros dro neu symudol (fel offer a rheseli arddangos).

Mae nodweddion ffisegol hefyd yn cynnwys maint adeilad neu eiddo (er enghraifft, maint maes awyr lle y gallai llwybr byr gydag arwyddion clir i’r llecyn ymadael alluogi pobl ag anhwylder symud i ddefnyddio’r maes awyr yn fwy hwylus, neu ganolfan siopa, lle y mae cadeiriau olwyn, bygis a staff ychwanegol i helpu siopwyr i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas yn cael eu darparu). Nid yw hon yn rhestr cynhwysfawr.

Er enghraifft:

  • Mae tafarn yn gwella’r llwybrau yn ei gardd gwrw fel y gall cwsmeriaid anabl a chanddynt anhwylder symud neu anhwylder gweld ddefnyddio’r ardal allanol.
  • Mae siop fechan yn paentio ffrâm ei drws mewn lliw cyferbyniol i gynorthwyo cwsmeriaid a chanddynt anhwylder gweld.
  • Mae siop trin gwallt yn symud stondinau arddangos nwyddau o safle’n agos at y drws i greu eil ehangach, sy’n golygu ei bod yn fwy hwylus i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ddefnyddio ei gwasanaethau.
  • Mae sinema yn disgrifio ffilm fel un sydd yn trin awtistiaeth yn briodol ac yn sicrhau bod addasiadau’n cael eu gwneud i ysgafnhau straen a mewnbwn synhwyraidd, megis goleuadau a sain isel, rhyddid i symud a staff sydd wedi’u hyfforddi ynglŷn ag ymwybyddiaeth ag awtistiaeth. 

Mae’r trydydd gofyniad yn golygu darparu cynorthwyon a gwasanaethau ychwanegol fel darparu offer ychwanegol neu ddarparu gwasanaeth gwahanol neu ychwanegol (yr hyn mae cyfraith cydraddoldeb yn ei alw’n gynorthwyon ategol neu’n wasanaethau ategol).

Rhaid i sefydliad gymryd camau rhesymol i ddarparu cynorthwyon neu wasanaethau ategol pe bai hyn yn galluogi pobl anabl i ddefnyddio unrhyw un o’i wasanaethau neu’n ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny.

Er enghraifft:

  • Mae siop yn cadw dolen anwytho symudol ar ei chownter fel y gall pobl anabl sy’n defnyddio offer clywed glywed sgyrsiau gyda staff yn haws.
  • Mae clwb yn recordio ei lawlyfr ar CD sain ar gyfer aelodau a chanddynt anhwylder gweld, ac mae’n danfon ei gylchlythyron trwy e-bost ar ffurf ffeil sain os yw aelodau yn gofyn am hynny.
  • Mae cyfrifydd yn cynnig mynd i weld cleient a chanddynt anhwylder symud yn eu cartref er mai’r drefn arferol yw bod cleientiaid yn dod i adeilad y cyfrifydd.
  • Mae gan ganolfan hamdden archeb reolaidd gan grŵp o bobl fyddar. Mae’r ganolfan hamdden yn gofalu fod aelodau staff sydd wedi cael hyfforddiant sylfaenol mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn gweithio ar y diwrnod hwnnw er mwyn sicrhau bod y cwsmeriaid byddar yn cael yr un lefel o wasanaeth ag y byddai pobl eraill yn ei ddisgwyl.

Bydd y math o offer neu wasanaeth yn dibynnu’n fawr ar yr unigolyn anabl unigol ac ar yr hyn y mae’r sefydliad yn ei wneud. Fodd bynnag, efallai y gall sefydliadau feddwl ymlaen llaw am rai pethau fydd yn helpu grwpiau penodol o bobl anabl.

Gall datrysiadau technolegol fod yn ddefnyddiol wrth oresgyn rhwystrau cyfathrebu, ond weithiau unigolyn yn cynnig cymorth fydd yr hyn sydd ei angen.

Er enghraifft:

  • Gofyn i unigolyn a chanddo anhwylder gweld a hoffent gael cymorth yn dod o hyd i nwyddau mewn siop neu gael gwybodaeth wedi’i darllen iddo.
  • Cymryd amser i esbonio gwasanaethau i unigolyn anabl ag anabledd dysgu.
  • Os gofynnir i rywun wneud penderfyniad pwysig, darparu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i Saesneg ar gyfer unigolyn anabl sy’n defnyddio BSL, os yw’n rhesymol i’r sefydliad wneud hynny.

Os yw sefydliad yn darparu offer, rhaid i’r offer weithio a rhaid ei gynnal a’i gadw. Mae’n bwysig hefyd fod staff yn gwybod sut i ddefnyddio’r offer.

Mae’r ddyletswydd rhywfaint yn wahanol i gymdeithasau, o ran rheolaeth adeiladau, ac ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth. Esbonnir y gwahaniaethau hyn ar ddiwedd yr adran hon o’r canllaw.

Diweddariadau tudalennau