Tai a phobl anabl: Argyfwng cudd Prydain

Wedi ei gyhoeddi: 11 Mai 2018

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae ein hymchwiliad tai yn edrych ar y ddarpariaeth bresennol o dai hygyrch ac addasadwy ar gyfer pobl anabl a ddarperir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig.

Mae gan bobl anabl hawl i fyw'n annibynnol. Roeddem am ddarganfod i ba raddau yr oedd yr hawl hon yn cael ei chyflawni yng nghyd-destun tai.

Canfu’r adroddiad fod:

  • mae pobl anabl yn rhy aml yn cael eu digalonni a'u rhwystro gan y system dai
  • mae prinder sylweddol o gartrefi hygyrch
  • mae gosod addasiadau cartref yn golygu biwrocratiaeth annerbyniol ac oedi
  • nid yw pobl anabl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw'n annibynnol

Mae'r adroddiad yn argymell bod mwy o gartrefi addasadwy yn cael eu hadeiladu ar gyfer pobl anabl a bod llywodraethau lleol a chenedlaethol yn ymgysylltu â phobl anabl yn ystod y camau cynllunio.

Gallwch hefyd wylio ein fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r crynodeb gweithredol ar YouTube.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau