Newyddion

Rheoleiddiwr hawliau yn cynghori'r llywodraeth ar ganllawiau RSHE i ysgolion yn Lloegr

Wedi ei gyhoeddi: 23 Gorffenaf 2024

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi ymateb i ymgynghoriad yr Adran Addysg ar ei diwygiadau drafft i ganllawiau i ysgolion yn Lloegr ar addysg perthnasoedd, rhyw ac iechyd (a elwir gyda'i gilydd yn RSHE).

Mae’r cyngor gan reoleiddiwr cydraddoldeb a hawliau dynol Prydain yn canolbwyntio ar rwymedigaethau hawliau dynol llywodraeth y DU, gan gynnwys y rhai o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

O dan y UNCRC mae’n rhaid i lywodraeth y DU wneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn plant rhag pob math o drais corfforol a meddyliol, cam-drin, esgeulustod a chamfanteisio. Mae darparu mynediad digonol at wybodaeth yn rhan bwysig o hyn, ac mae ymateb y Comisiwn yn dadlau y dylai hyn fod yn ganolog i’r canllawiau RSHE diwygiedig.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rydym yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at y darn pwysig hwn o ganllawiau. Mae RSHE yn hynod bwysig i sicrhau bod gan blant yr wybodaeth i amddiffyn eu hunain, adnabod ac adrodd am ymddygiad amhriodol neu fygythiol.

“Mae’r EHRC wedi gwneud sawl argymhelliad yn ein hymateb, a fydd yn sicrhau bod ysgolion yn gallu arfogi plant â’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gael perthnasoedd iach ac amddiffyn eu hunain rhag niwed.

“Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes sensitif ac mae amrywiaeth o safbwyntiau ar sut a phryd y dylai athrawon addysgu’r gwersi pwysig hyn i blant. Wrth galon ein hargymhellion mae’r canllawiau yn hybu hawl plant i dderbyn gwybodaeth a fydd yn eu helpu i ddeall eu hawliau a’u hamddiffyn rhag niwed.”

Mae sylwadau ac argymhellion allweddol a wnaed yn ymateb y Comisiwn yn cynnwys:

  • Mae canllawiau drafft yr Adran Addysg yn cynghori na chaiff pynciau fel cynnwys ar-lein amhriodol, hunanladdiad ac ymosodiad rhywiol eu trafod tan gyfnod cymharol hwyr yn addysg a datblygiad plentyn. Mae peryg y byddent yn dod i gysylltiad â'r materion hyn heb yr wybodaeth na'r sgiliau i ymdrin â nhw.

  • Mae'r EHRC yn arbennig o bryderus am y dull hwn lle mae perygl mai mynediad heb oruchwyliaeth i'r rhyngrwyd yw prif ffynhonnell wybodaeth plant ar y materion hyn.

  • Mae canllawiau drafft yr Adran Addysg yn argymell na chaiff plant eu haddysgu am droseddau fel cylchredeg delweddau noeth tan Flwyddyn 9. Byddai hyn yn golygu y byddai plant yn droseddol gyfrifol am weithredoedd nad ydynt wedi cael eu haddysgu amdanynt ers hyd at dair blynedd.

  • Mae’r EHRC yn cytuno y dylai plant gael eu haddysgu mewn ffyrdd sy’n briodol i’w hoedran. Ein hargymhelliad yw cynnwys lefel ofynnol o wybodaeth ar gyfer grwpiau oedran yn y canllawiau er mwyn cadw plant yn ddiogel.

  • Mae'r EHRC yn croesawu hyrwyddo systemau effeithiol i adnabod aflonyddu rhywiol yn y canllawiau. Fodd bynnag, gallai addysgu plant am y mater hwn yn y cyfnod cymharol hwyr a nodir yn y canllawiau fethu ag amddiffyn plant yn ddigonol rhag risgiau. Dangoswyd y gall diffyg dealltwriaeth o beth yw cam-drin rhywiol fod yn rhwystr i gael mynediad at gymorth.

  • Mae’r EHRC yn argymell bod ysgolion yn mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar hawliau tuag at addysgu RSHE.