Mae angen gweithredu ar frys i wella amddiffyniadau i blant ym Mhrydain, yn ôl adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD).
Mae’r adroddiad yn amlinellu cyflwr hawliau plant ym Mhrydain ac yn rhan o system y Cenhedloedd Unedig ar gyfer monitro’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, cytundeb a lofnodwyd gan y DU ym 1991.
Wedi’i gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol Addysg, mae adroddiad CCHD yn annog Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i adolygu meysydd sy’n peri pryder, gan gynnwys y dysgu coll a achoswyd gan bandemig COVID-19, gydag argymhellion a wnaed i lywodraethau’r DU a Chymru, gan gynnwys mynd i'r afael â bylchau data, yn enwedig yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â cham-drin plant ar-lein, y mae amcangyfrif bod pedwar o bob deg plentyn yn agored iddo1, gyda phlant yn treulio hyd yn oed mwy o amser ar-lein yn ystod y pandemig.
Mae’r CCHD yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag aflonyddu a chamdriniaeth ar-lein drwy’r Bil Diogelwch Ar-lein sydd yn y Senedd ar hyn o bryd, tra’n cadw eu hawliau i wybodaeth hygyrch a chysylltedd digidol.
Dywedodd y Farwnes Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae plant yn haeddu ffynnu a byw eu bywydau i’r eithaf. Mae Diwrnod Rhyngwladol Addysg yn amser i ddathlu eu potensial.
“Yn anffodus, mae ein hadroddiad i’r Cenhedloedd Unedig yn dangos bod gormod o blant ym Mhrydain yn dal i ddioddef effaith y pandemig, gan gynnwys drwy golli cyfleoedd dysgu, a bod yr anghydraddoldebau presennol wedi’u gwaethygu. Maent hefyd yn gynyddol mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu haflonyddu ar-lein.
“Mae iechyd meddwl gwael, tarfu ar addysg a cham-drin ar-lein i gyd yn faterion y mae’n rhaid i lywodraethau’r DU a Chymru fynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau bod hawliau ein plant yn parhau i gael eu hamddiffyn. Bydd cynnal ymrwymiadau cytundeb y DU i hawliau’r plentyn yn grymuso’r genhedlaeth nesaf i adeiladu’r dyfodol gwell i Brydain yr ydym i gyd am ei weld.”
Nodiadau i Olygyddion
-
Y CCHD yw’r Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr sydd wedi’i achredu gan y Cenhedloedd Unedig, ac ar gyfer yr Alban ym mhob mater sydd wedi’i gadw i Lywodraeth y DU. Mae wedi cael y statws 'A' uchaf gan y Cenhedloedd Unedig am ei ymlyniad i egwyddorion cytûn i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol. Fel rhan o'i rôl, mae'r CCHD yn cyfrannu'n rheolaidd at adolygiadau'r Cenhedloedd Unedig, gan fonitro cynnydd hawliau dynol.
-
Mae’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol sy’n ei gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ystyried buddiannau gorau’r plentyn wrth wneud unrhyw beth sy’n effeithio ar blant, gan amddiffyn eu hawliau ym mhob rhan o’u bywyd. Mae’r DU wedi bod yn llofnodwr i’r cytuniad CU hwn ers 1991. Mae’r CCHD wedi adrodd o bryd i’w gilydd ar gynnydd wrth weithredu’r cytundeb hwn ers sefydlu’r sefydliad gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006.
-
Mae’r adroddiad llawn yn nodi’r materion a godwyd gan y Comisiwn a’r argymhellion i lywodraethau’r DU a Chymru wneud cynnydd cyflymach tuag at weithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn.
-
Mae argymhellion y Comisiwn yn yr adroddiad hwn wedi’u cyfeirio at lywodraethau’r DU a Chymru, er y gallant hefyd fod yn berthnasol i weinyddiaethau datganoledig eraill.
-
Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar adroddiad cychwynnol CCHD i’r Cenhedloedd Unedig a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2020.