Polisi rhyddid gwybodaeth
Wedi ei gyhoeddi: 21 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 31 Ionawr 2024
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Rhagymadrodd
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu yn Ionawr 2026.
Rhyddid gwybodaeth
Rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth ac unrhyw gyfreithiau cysylltiedig eraill sy’n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Mae'r polisi hwn yn canolbwyntio ar Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ('y Ddeddf'). Mae’r Ddeddf yn galluogi unrhyw un, unrhyw le yn y byd, i ofyn am unrhyw wybodaeth gofnodedig sydd gennym. Nid oes angen i’r ymgeisydd egluro’r rhesymau dros ei gais, na’i fod yn gais o dan y Ddeddf.
Rhaid gwneud ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig a chynnwys enw a chyfeiriad (neu gyfeiriad e-bost) y sawl sy’n gwneud cais a’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Byddwn yn darparu gwybodaeth os ydym yn ei dal, oni bai bod un neu fwy o'r eithriadau a restrir yn y Ddeddf yn berthnasol. Nid oes rhaid i ni ddarparu gwybodaeth sydd wedi'i heithrio.
Os hoffech wybod mwy am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Ein cyfrifoldebau
Ein Tîm Arwain sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y polisi hwn. Mae ein Cyfarwyddwyr a’n Cyfarwyddwyr Gweithredol yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei weithredu a’i ddilyn. Rydym yn cadw'r hawl i newid y polisi ar unrhyw adeg.
Yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) yw’r Cyfarwyddwr sy’n atebol i’n Tîm Arwain a’n Bwrdd, am ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â chadw gwybodaeth.
Mae’r Grŵp Llywio Llywodraethu Gwybodaeth (IGSG) yn cefnogi’r SIRO i ddatblygu a gwella sut rydym yn rheoli ein gwybodaeth a’n diogelu data.
Mae'r Tîm Cyfraith Gorfforaethol a Llywodraethu Gwybodaeth yn cynghori ar ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth ac yn ymdrin â cheisiadau. Mae ein holl staff yn gyfrifol am nodi ac anfon ceisiadau am wybodaeth at y Tîm Cyfraith Gorfforaethol a Llywodraethu Gwybodaeth ac ymateb yn brydlon i geisiadau gan y tîm.
Cynllun cyhoeddi
Rydym yn cyhoeddi llawer o wybodaeth am y gwaith a wnawn fel awdurdod cyhoeddus ac rydym yn defnyddio Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth.
Rydym yn sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael fel mater o drefn. Mae’r wybodaeth hon, sydd i’w chael ar ein gwefan, yn cynnwys:
- pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
- beth rydyn ni'n ei wario a sut rydyn ni'n ei wario
- beth yw ein blaenoriaethau a sut yr ydym yn gwneud
- sut rydym yn gwneud penderfyniadau
- ein polisïau a’n gweithdrefnau
- rhestrau a chofrestrau, ac
- y gwasanaethau rydym yn eu cynnig.
Os na fyddwch yn dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, gallwch ysgrifennu atom i ofyn am yr wybodaeth sydd gennym.
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI).
Gwneud cais
Gallwch e-bostio eich cais at ein Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn foi@equalityhumanrights.com, neu ysgrifennu atom yn:
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Ty Arndale
Canolfan Arndale
Manceinion
M4 3AQ
Cofiwch gynnwys y manylion canlynol yn eich cais:
- eich enw a chyfeiriad (neu gyfeiriad e-bost)
- yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch, a
- sut yr hoffech i ni anfon yr wybodaeth atoch (er enghraifft, drwy'r post neu drwy e-bost).
Pan fyddwch yn gofyn i ni am wybodaeth, ceisiwch fod mor glir â phosibl. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall eich cais ac ymateb i chi yn brydlon. Os yw eich cais yn aneglur, efallai y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth i'n helpu i ddeall yr hyn yr ydych yn chwilio amdano.
Addasiadau rhesymol a fformatau amgen
Ein nod yw gwneud ein polisi yn hawdd ei ddefnyddio ac yn hygyrch i bawb. Byddwn yn cymryd camau i wneud unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen i gael mynediad at y polisi hwn, neu unrhyw geisiadau i ddarparu ymatebion mewn fformatau eraill.
Ar gyfer unrhyw un na allant gysylltu â ni yn ysgrifenedig ac sydd angen addasiad rhesymol oherwydd anabledd, ffoniwch ni ar: 0161 829 8100. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth fideo arwyddo ar-lein i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Os byddai'n well gennych gael ymateb yn Gymraeg, rhowch wybod i ni. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg ac ni fydd hyn yn achosi oedi.
Sut rydym yn prosesu ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
Os byddwch yn ysgrifennu atom yn gofyn am wybodaeth am ein gwaith fel awdurdod cyhoeddus, byddwn yn ymdrin â’r ceisiadau hyn o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth.
Ein nod yw ymateb i'ch cais yn brydlon ac o fewn 20 diwrnod gwaith. Os na allwn gwrdd â'r terfyn amser hwn, byddwn yn dweud wrthych ac yn rhoi gwybod ichi pryd y byddwn yn debygol o allu ymateb i'ch cais.
Ar ôl i chi wneud eich cais, byddwn naill ai yn:
- rhoi’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani
- rhoi gwybod i chi ble gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth
- cadarnhau nad ydym yn cadw'r wybodaeth, neu
- esbonio pam na allwn roi'r wybodaeth i chi.
Fel arfer byddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth y gofynnwch amdani.
Fodd bynnag, mae rhai eithriadau sy’n caniatáu i ni gadw rhai mathau o wybodaeth yn ôl, megis data personol neu wybodaeth fasnachol sensitif, oherwydd mae rhyddhau’r wybodaeth honno’n debygol o achosi niwed neu ragfarn.
Fel arfer ni allwn hefyd ddarparu gwybodaeth a gasglwyd yn ystod:
- ein hymholiadau
- ein hymchwiliadau
- asesiadau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED), neu
- pan fyddwn yn meddwl bod person wedi cyflawni gweithred anghyfreithlon a’n bod yn ymrwymo i gytundeb ag ef neu’n cyhoeddi hysbysiad o weithred anghyfreithlon.
Mae hyn oherwydd bod y gofyniad am breifatrwydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 yn cael blaenoriaeth dros ein dyletswyddau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, gallwn wrthod cais os, er enghraifft, y byddai’n rhy gostus i ni ymateb oherwydd faint o amser y byddai’n ei gymryd i ni gasglu’r wybodaeth. Lle bo modd, byddwn yn ceisio eich helpu i fireinio eich cais fel y byddai'n cymryd llai o amser i ni gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Os na allwn roi'r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani, byddwn yn ysgrifennu atoch i egluro pam. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi beth i'w wneud nesaf os byddwch yn anghytuno â'n penderfyniad.
Adolygiadau
Os nad ydych yn hapus â'r ymateb a gewch yn dilyn cais am wybodaeth, dylech gwyno'n ysgrifenedig i ni yn gyntaf gan ddefnyddio'r un manylion cyswllt a ddefnyddiwyd gennych i wneud eich cais.
Ein nod yw ymateb i geisiadau am adolygiad o fewn 20 diwrnod gwaith.
Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl derbyn ein hymateb, gallwch gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Ty Wycliffe
Lôn y Dŵr
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
Ni fydd y Comisiynydd Gwybodaeth fel arfer yn delio â chwyn oni bai bod ein proses adolygu mewnol wedi dod i ben.
Ceisiadau am eich data personol
Ni allwch ofyn am eich data personol eich hun o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth. Os byddwch yn gofyn i ni am gopïau o’ch data personol, byddwn yn delio â’ch cais o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Fel arfer byddwn ond yn cadw gwybodaeth amdanoch os ydych wedi bod mewn cysylltiad â ni o'r blaen.
Ein nod yw ymateb i’r ceisiadau hyn o fewn mis, ond mae Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) hefyd yn rhoi hawliau eraill i chi yn ymwneud â gwybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch.
Gallwch ddarganfod mwy am yr hawliau hyn a sut i wneud cais yn ein hysbysiad preifatrwydd. Mae hefyd yn cynnwys mwy o wybodaeth am yr hyn a wnawn gyda data personol.
Cysylltiadau
Gellir cyfeirio cwestiynau a sylwadau ar y polisi hwn at: correspondence@equalityhumanrights.com. Rydym yn croesawu eich adborth.
I gael gwybodaeth am gyrchu un o'n cyhoeddiadau mewn fformat arall, cysylltwch â: correspondence@equalityhumanrights.com.
Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am ein newyddion, digwyddiadau a chyhoeddiadau diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyr.
EASS
I gael cyngor, gwybodaeth neu arweiniad ar faterion cydraddoldeb, gwahaniaethu neu hawliau dynol, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb, gwasanaeth annibynnol rhad ac am ddim.
Ffôn: 0808 800 0082
Oriau: 09:00 i 19:00 (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
10:00 i 14:00 (dydd Sadwrn)
Post: LLINELL GYMORTH RHADBOST EASS FPN6521
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
21 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd diwethaf
31 Ionawr 2024