Arweiniad

Pan mae’r ddyletswydd yn wahanol

Wedi ei gyhoeddi: 6 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 6 Ebrill 2016

Cymdeithasau

Mae’r hyn y mae’n rhaid i gymdeithasau ei wneud o dan gyfraith cydraddoldeb yn cael ei esbonio yng nghanllaw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Eich Hawliau i Gydraddoldeb: Cymdeithasau a chlybiau.

Rhaid i gymdeithasau wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl yn eu prosesau dewis ac yn y ffordd y mae aelodau, aelodau cyswllt a gwesteion (a darpar aelodau a gwesteion) yn defnyddio eu gwasanaethau ac yn mwynhau eu buddion a’u cyfleusterau.

Nod addasiadau rhesymol yw gofalu y gall pobl anabl ymuno â chymdeithas neu ddefnyddio ei gwasanaethau i’r graddau y mae hynny’n rhesymol bosibl i’r un safon ag a gynigir fel arfer i bobl nad ydynt yn anabl.

Mae’n rhaid i gymdeithas feddwl nid yn unig am addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl sydd eisoes yn aelodau, aelodau cyswllt neu westeion, ond hefyd ar gyfer pobl anabl sy’n:

  • ceisio dod yn aelodau neu y gallent geisio gwneud hynny, neu’n
  • debygol o ddod yn westeion.

Golyga hynny fod rhaid i’r gymdeithas feddwl ymlaen llaw am yr hyn allai pobl anabl a chanddynt ystod o anhwylderau fod yn rhesymol eu hangen, megis pobl ag anhwylder gweld, anhwylder clywed, anhwylder symud neu anabledd dysgu.

Os mai nodweddion ffisegol adeilad y mae’r gymdeithas yn gweithio ynddo neu’n ei ddefnyddio oedd yn rhoi pobl anabl dan anfantais sylweddol, mae’n rhaid i’r gymdeithas naill ai:

  • wneud addasiadau rhesymol er mwyn osgoi anfantais, neu
  • ddod o hyd i ffordd amgen resymol o gynnig yr un cyfle i aelodau, aelodau cyswllt a gwesteion (a darpar aelodau a gwesteion) fanteisio ar aelodaeth a’i wasanaethau.

Weithiau gall addasiad rhesymol olygu cynnig ffordd amgen i bobl anabl o ddefnyddio’r gwasanaeth, sy’n cynnwys rhyw lefel o anghyfleustra neu arwahanu. Fodd bynnag, y math gorau o addasiad rhesymol yw un sy’n galluogi pobl anabl i ddefnyddio’r gwasanaeth yn yr un ffordd mwy neu lai â phobl nad ydynt yn anabl. Yn wir, os oes addasiad y gellir yn rhesymol ei wneud sy’n osgoi arwahanu neu anghyfleustra, efallai na fyddai addasiad sy’n golygu arwahanu neu anghyfleustra yn cael ei ystyried yn addasiad rhesymol o gwbl.

Pan mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yng nghartref aelod neu aelod cyswllt, nid oes rhaid gwneud addasiadau rhesymol i nodweddion ffisegol i’w wneud yn hygyrch i aelod sy’n unigolyn anabl ac y mae nodweddion ffisegol y cyfarfod yn creu rhwystr iddynt fynychu’r cyfarfod.

Ond gall fod yn addasiad rhesymol i gynnal y cyfarfod mewn lleoliad hygyrch.

Er enghraifft:

Mae gan glwb seiclo 30 aelod ond nid oes ganddo ei adeilad ei hun. Yn hytrach mae aelodau yn cyfarfod yn nhŷ’r arweinydd unwaith y flwyddyn ar gyfer eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Nid yw hwnnw’n cynnig mynediad addas i aelod anabl o’r clwb, a gollodd ei goesau sy’n defnyddio cadair olwyn. (Mae’r aelod yn defnyddio tandem wedi’i addasu’n arbennig wrth seiclo.) Fel addasiad rhesymol, mae’r clwb yn penderfynu cynnal ei gyfarfodydd mewn neuadd chwaraeon leol sy’n cynnig mynediad addas.

Hyd yn oed os nad yw hwnnw’n addasiad rhesymol o ystyried holl amgylchiadau’r gymdeithas, megis ei maint a’i hadnoddau, efallai y bydd y gymdeithas eisiau ystyried a ddylai fel mater o arfer da newid ymhle mae’n cyfarfod a symud i leoliad hygyrch.

Adeiladau rhent neu adeiladau sydd ar gael i'w rhentu

Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol i landlordiaid a rheolwyr eiddo rhent neu eiddo sydd ar gael i’w rentu. Gall hyn gynnwys landlord, cwmni gosod, cwmni rheoli eiddo, pwyllgor rheoli neu drigolion bloc o fflatiau, ac unrhyw unigolyn arall y mae ganddynt, yn ymarferol, reolaeth dros y ffordd mae’r eiddo’n cael eu gosod neu eu rheoli, gelwir y bobl hyn yn ‘rheolwyr yr eiddo’.

Mae gosod eiddo masnachol a thai at ddefnydd domestig (yn amodol ar rai eithriadau) yn cael ei gynnwys. Mae gosod yn cynnwys is-osod, a chyflwyno trwyddedau cytundebol i feddiannu eiddo (yn hytrach na buddiant yn yr eiddo sy’n cael ei ganiatáu gan les). Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys gwerthiannau preifat (a elwir yn warediadau preifat yn y Ddeddf) ar yr amod na ddefnyddiwyd arwerthwr tai ac na chyhoeddwyd unrhyw hysbyseb. Yn yr un modd, nid yw’n berthnasol os yw’r landlord ond yn rhentu ystafell neu ystafelloedd mewn tŷ ag ynddo ystafell ar gyfer chwe unigolyn neu lai y mae’r landlord neu berthynas neu bartner yn dal i fyw ynddo. Yr enw ar hyn yw’r eithriad eiddo bach.

Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol o ran gosod adeiladau yn wahanol i’r ddyletswydd arferol i wneud addasiadau rhesymol ynghylch gwasanaethau.

Yn gyntaf, nid yw’n ddisgwylgar. Nid yw’r ddyletswydd ond yn berthnasol os gofynnir i reolwr yr eiddo wneud addasiad gan unigolyn y gosodir yr eiddo iddo neu sy’n dymuno rhentu’r eiddo, neu rywun ar eu rhan. Nid oes rhaid i’r cais gael ei wneud yn ffurfiol a dylai’r landlord ragdybio fod ganddynt gyfrifoldeb i wneud addasiad rhesymol os yw’n rhesymol i ragdybio y cafodd cais ei wneud.

Er enghraifft:

Mae landlord yn siarad â darpar denant ar y ffôn i drefnu cyfarfod i arwyddo cytundeb tenantiaeth. Yn ystod y sgwrs, mae’r tenant yn esbonio fod ganddo anhwylder gweld a’u bod yn cael y print yn y cytundeb tenantiaeth yn rhy fach. Mae’r tenant yn cyfeirio at anhwylder ac mae’n debygol y byddai’n rhesymol ystyried hyn yn gais am gynhorthwy ategol, megis cytundeb tenantiaeth mewn fformat amgen. Nid oes rhaid i’r tenant ofyn am fformat amgen er mwyn i’r landlord orfod ystyried addasiad.

Yn ail, mae dim ond dau ofyniad. Y rheiny yw:

  • Darparu cynorthwyon a gwasanaethau ategol.
  • Newid darpariaethau, meini prawf neu arferion, gan gynnwys (wedi i eiddo gael eu gosod) newid amod y gosodiad. Er enghraifft, amod ‘dim cŵn’ mewn les a gytunwyd gan unigolyn anabl sy’n defnyddio ci tywys.

Nid oes unrhyw ofyniad i wneud unrhyw newidiadau a fyddai’n cynnwys cael gwared â nodwedd ffisegol neu wneud newid iddo, sy’n cynnwys:

  • unrhyw nodwedd sy’n deillio o gynllun neu adeiladwaith adeilad
  • unrhyw nodwedd ar ddynesiad at, allanfa o neu fynediad i adeilad
  • unrhyw ddarnau gosod a gosodiadau mewn neu ar eiddo
  • unrhyw elfen neu ansawdd ffisegol arall.

Nid yw nodweddion ffisegol yn cynnwys celfi, dodrefn, deunyddiau, offer neu ddarnau eraill o eiddo personol.

Mae newidiadau yn annhebyg o gael eu trin fel pe baent yn cynnwys addasiad i nodwedd ffisegol pan mai effaith ymylol yn unig a gânt ar nodwedd ffisegol.

Er enghraifft:

Mae cydio rhywbeth i nodwedd ffisegol, megis wal, gyda sgriw yn annhebyg o fod yn addasiad i nodwedd ffisegol. Fodd bynnag, mae rhywbeth mwy arwyddocaol, fel gosod ramp concrit rhwng gris a llwybr, yn debygol o fod yn addasiad i nodwedd ffisegol.

Nid yw pethau fel amnewid neu ddarparu unrhyw arwyddion neu hysbysiadau, amnewid unrhyw dapiau neu ddolenni drysau, amnewid, darparu neu addasu unrhyw system clychau drysau neu fynediad drysau, newidiadau i liw unrhyw arwyneb (fel wal neu ddrws, er enghraifft) yn cyfrif yn nodweddion ffisegol, sy’n golygu y gallai’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol olygu gwneud newidiadau iddyn nhw.

Mae’r un profion yn berthnasol wrth benderfynu a yw addasiad yn addasiad rhesymol:

  • pa mor effeithiol fydd y newid wrth gynorthwyo’r tenant neu aelod o’r teulu sydd angen yr addasiad
  • a ellir ei wneud mewn gwirioneddol
  • y gost
  • adnoddau a maint y rheolwr.

Er nad oes rhaid i reolwr eiddo newid nodweddion ffisegol, mae rheolau penodol am pan mae’n rhaid i reolwr eiddo gytuno y gall tenantiaid eu hunain wneud addasiadau i nodweddion ffisegol tai rhent, ac esbonnir y rhain yng nghanllaw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Eich hawliau i gydraddoldeb tai. Yn y dyfodol, efallai hefyd y bydd rheolau penodol am y broses i’w dilyn pan wneir ceisiadau am addasiadau i lecynnau cyffredin neu ‘rannau cyffredin’ adeiladau a chaiff y canllaw hwn ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Diweddariadau tudalennau