Erthygl
Pwy ydym ni
Wedi ei gyhoeddi: 13 Ebrill 2016
Diweddarwyd diwethaf: 17 Mehefin 2021
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Amdanom ni
Rydym yn gorff statudol annibynnol gyda chyfrifoldeb i annog cydraddoldeb ac amrywiaeth, dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, ac amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol pawb ym Mhrydain.
Rydym yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol – gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig .
Mae Prydain yn ffodus i gael fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol cryf i amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu a thorri eu hawliau a’u rhyddid sylfaenol. Fodd bynnag, yn aml nid yw profiadau llawer o bobl ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn adlewyrchu’r hyn a nodir yn y gyfraith.
Ein rôl ni yw gwneud yr hawliau a'r rhyddid hyn yn realiti i bawb. Rydym yn defnyddio ystod o bwerau i wneud hynny, drwy roi cyngor ac arweiniad i unigolion, cyflogwyr a sefydliadau eraill, adolygu effeithiolrwydd y gyfraith a chymryd camau gorfodi cyfreithiol i egluro’r gyfraith a mynd i’r afael â thoriadau hawliau sylweddol.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
1. Yn gatalydd ar gyfer newid
Galluogi ac annog gwelliant trwy ddod â phobl ynghyd i ddyfeisio atebion, a meithrin gallu mewn sefydliadau eraill i'w helpu i sicrhau newid. Lle bo'n briodol, rydym yn cynnal ymholiadau i archwilio materion systemig, casglu tystiolaeth a datblygu atebion posibl.
2. Darparwr gwybodaeth
Helpu pobl i ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau a gwella cydymffurfiaeth â’r gyfraith.
3. Dylanwadwr
Defnyddio ein harbenigedd cyfreithiol, ymchwil, mewnwelediad a dadansoddiad i ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus a llywio dadleuon.
4. Gwerthuswr
Monitro effeithiolrwydd y cyfreithiau sy'n amddiffyn hawliau pobl i gydraddoldeb a hawliau dynol, a mesur cynnydd mewn cymdeithas.
5. Gorfodydd
Mae defnyddio ein pwerau gorfodi strategol yn ddetholus i amddiffyn pobl rhag camddefnydd difrifol a systemig o’u hawliau ac i egluro cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol, ochr yn ochr â’n hymdrechion yn helpu sefydliadau i gydymffurfio â safonau cydraddoldeb a hawliau dynol.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
13 Ebrill 2016
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021