Cyhoeddiad

Arweiniad i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru, Prynu canlyniadau gwell

Wedi ei gyhoeddi: 5 Ebrill 2023

Diweddarwyd diwethaf: 5 Ebrill 2023

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Cymru

Mae awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn gwario £7 biliwn bob blwyddyn ar brynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau gan sefydliadau eraill ar draws pob sector. Gall awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio’r pŵer prynu hwn fel ffordd o hybu cydraddoldeb a, lle bo’n briodol, cyflawni buddion cymdeithasol ehangach, megis creu cyfleoedd hyfforddiant neu gyflogaeth. Rydym wedi cynhyrchu canllawiau sy’n esbonio sut y gall awdurdodau cyhoeddus sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED) ar wahanol gamau o’r cylch caffael ac yn mynd â chi drwy faterion cydraddoldeb y gallai fod angen i chi eu hystyried ar bob cam.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau