Camau cyfreithiol
Mae Paradigm Precision yn arwyddo cytundeb cyfreithiol-rwym i amddiffyn staff rhag aflonyddu a gwahaniaethu
Wedi ei gyhoeddi: 9 Mawrth 2020
Diweddarwyd diwethaf: 17 Mawrth 2020
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
Manylion yr achos
Nodwedd warchodedig | Cyfeiriadedd rhywiol |
---|---|
Mathau o hawliadau cydraddoldeb | Gwahaniaethu uniongyrchol, Aflonyddu |
Llys neu dribiwnlys | Tribiwnlys Cyflogaeth |
Ein cyfranogiad | Gorfodaeth |
Canlyniad | Arall |
Meysydd o fywyd | Gwaith |
Enw achos: Paradigm Precision Burnley Ltd
Mae Paradigm Precision Burnley Ltd wedi dod i gytundeb cyfreithiol-rwym gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn dilyn penderfyniad Tribiwnlys Cyflogaeth a ganfu ei fod wedi gwahaniaethu yn erbyn un o'i weithwyr, Mr Peter Allen.
Pam roedden ni'n cymryd rhan
Mae’n groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2020 i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un oherwydd ei gyfeiriadedd rhywiol.
Gallwn ymrwymo i gytundeb ffurfiol ag unigolyn neu sefydliad y credwn sydd wedi cyflawni gweithred anghyfreithlon. Trwy ymrwymo i gytundeb, mae'r person neu'r sefydliad yn cytuno i beidio â chyflawni gweithred anghyfreithlon. Fel y cyfryw, mae'n aml yn ddewis amgen effeithiol i gamau gorfodi ffurfiol eraill.
Gellir gwneud cytundebau heb ymchwiliad ffurfiol ac maent yn cynnwys rhoi cynllun gweithredu ar waith. Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, trwy gytuno ar gynllun gweithredu, nad yw'r unigolyn neu'r sefydliad yn cyfaddef bod gweithred anghyfreithlon wedi digwydd.
Beth ddigwyddodd
Mae'r cytundeb a sicrhawyd yn ymrwymo Paradigm Precision Burnley i gynnal cynllun gweithredu i wella ei ddull o ymdrin â chydraddoldeb ac amrywiaeth, gan gynnwys camau fel:
- Cyflwyno hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'i ddiweddaru i'r holl staff a darparu hyfforddiant cydraddoldeb gwell i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac Adnoddau Dynol;
- Adolygu ei ddeunyddiau sefydlu ar gyfer staff newydd i sicrhau eu bod yn deall y safonau ymddygiad disgwyliedig;
- Hysbysebu a monitro llinell gymorth y staff i sicrhau bod staff yn ymwybodol y gallant ei defnyddio i wneud cwynion cyfrinachol;
- Penodi hyrwyddwyr cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn meysydd allweddol o'i fusnes a chynnal adolygiadau rheolaidd gyda nhw i fonitro unrhyw faterion sy'n codi o bryder.
Dyddiad y gwrandawiad
Dyddiad dod i ben
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
9 Mawrth 2020
Diweddarwyd diwethaf
17 Mawrth 2020