Profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: triniaeth gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflog is

Wedi ei gyhoeddi: 9 Mehefin 2022

Diweddarwyd diwethaf: 9 Mehefin 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Cynhaliom ymchwiliad i asesu triniaeth a phrofiadau gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflog is ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.

Canfuom:

  • data anghyflawn ar weithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflog is, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion
  • triniaeth a phrofiadau gwahanol yn y gwaith
  • comisiynu ac allanoli yn arwain at gyflog gwael a gwaith ansicr
  • ymwybyddiaeth isel o hawliau cyflogaeth
  • ofn codi pryderon a diffyg mecanweithiau i wneud hynny

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad am ein canfyddiadau, gan gynnwys ein hargymhellion ar gyfer newid.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu papurau briffio ychwanegol ar gyfer llunwyr polisi sy’n manylu ymhellach ar yr hyn yr ydym am ei weld yn benodol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon