Ein gwaith hawliau dynol
Yr hyn a wnawn
Rydym yn gweithredu’n annibynnol i gryfhau deddfwriaeth diogelu hawliau dynol a chydraddoldeb, gan gynnwys:
-
hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac amddiffyniad o hawliau dynol
-
annog awdurdodau cyhoeddus i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol
-
amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl o gam-drin hawliau dynol
Sut rydym yn ei wneud
Mae’r ffordd rydym yn gwneud hyn yn cynnwys:
-
herio’r llywodraeth a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus os ydynt yn torri hawliau dynol, gan ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol
-
monitro’r sefyllfa hawliau dynol ym Mhrydain, yna adrodd ein canfyddiadau a’n hargymhellion i’r Cenhedloedd Unedig, y llywodraeth a’r Senedd
-
adrodd ar gynnydd Prydain o ran diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol fel rhan o’n dyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006
-
cynghori ar oblygiadau hawliau dynol polisïau a deddfwriaeth arfaethedig, er enghraifft trwy ddarparu briffiau seneddol ac ymateb i ymgynghoriadau’r llywodraeth
Ein gwaith gyda’r Cenhedloedd Unedig (CU)
Rydym yn hyrwyddo, yn monitro ac yn adrodd ar saith cytuniad y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd gan y DU – rhan bwysig o’n rôl fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI).
Rydym hefyd yn bwydo i mewn i'r Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR). Mae hon yn broses adolygu gan gymheiriaid a gynhelir gan Gyngor Hawliau Dynol y CU i asesu’r sefyllfa hawliau dynol ym mhob un o Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig.
Fel rhan o’r broses hon, rydym yn rhoi datganiadau i ddylanwadu ar lywodraeth y DU ar faterion hawliau dynol amrywiol.
Rydym hefyd yn helpu sefydliadau cymdeithas sifil i ddeall eu hawliau ac yn eu cefnogi i ymgysylltu â phrosesau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig i fynnu’r hawliau hynny. Rydym yn annog ac yn amddiffyn eu gallu i eiriol dros newid ar lefel ddomestig.
Mae ein hymchwil diweddar gyda Phrifysgol Nottingham yn asesu graddau ymgysylltiad cymdeithas sifil â chytuniadau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig a mecanweithiau adolygu ac, yn hollbwysig, sut y gellir cryfhau'r ymgysylltiad hwn.