Newyddion

Ymateb CCHD i adroddiad Cymdeithas Fawcett ar y 'Gosb Tâl Mamolaeth Ethnigrwydd'

Wedi ei gyhoeddi: 27 Mehefin 2023

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
 

“Mae’r CCHD wedi argymell yn gyson casglu ac adrodd ar ddata gweithwyr yn ôl ethnigrwydd, anabledd, oedran a rhyw, gan gynnwys ar gyfer recriwtio, cadw a dyrchafu. Bydd hyn yn helpu cyflogwyr i wybod eu bod yn trin eu staff yn deg, ac i roi camau gweithredu ar waith lle bo angen i wella amrywiaeth.

“Ni ddylai mamau o gefndiroedd ethnig lleiafrifol deimlo eu bod yn cael eu gorfodi allan o’r gweithle oherwydd bod ganddynt blant. Mae gweithlu amrywiol o fudd i fusnes.

“Fel arfer gall ystod ehangach o safbwyntiau, sgiliau a phrofiadau o fewn sefydliad arwain at wneud penderfyniadau gwell, mwy gwybodus.

“Gall cymryd camau penodol i wella cydraddoldeb yn y gweithle – megis dileu rhagfarn wrth recriwtio a chynnig gweithio hyblyg ar bob lefel – leihau anfantais, cynyddu cyfranogiad a bod yn dda i enw da ac elw cwmni. Ond yn gyntaf mae angen i gyflogwyr ddeall y rhwystrau penodol i gydraddoldeb yn eu gweithle, gan gynnwys bylchau cyflog yn ôl hil neu ethnigrwydd pobl.”

Nodiadau i Olygyddion:

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com