Newyddion

Ymateb CCHD yn dilyn dyfarniad y Llys Apêl ar bolisi lloches Rwanda

Wedi ei gyhoeddi: 30 Mehefin 2023

Dyfarnodd y Llys Apêl yr wythnos hon (29 Mehefin) nad yw Rwanda yn “drydedd wlad ddiogel” a bod y polisi o alltudio ceiswyr lloches yno yn anghyfreithlon.

Mae’r CCHD wedi amlygu risgiau’r polisi hwn yn gyson, gan annog Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn parhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol.

Mae dyfarniad y Llys Apêl yn codi pryderon penodol am y polisi lloches a mewnfudo hwn sydd mewn perygl o wneud pobl yn agored i niwed a gosod y DU mewn sefyllfa lle mae'n torri ei rhwymedigaethau cyfreithiol i amddiffyn hawliau dynol.

Bydd y Comisiwn yn parhau i gyflawni ein rôl statudol fel sefydliad hawliau dynol cenedlaethol drwy gynnig arweiniad i’r Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU yn ehangach i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com