Newyddion

Wyth sefydliad wedi'u henwi am fethu ag adrodd ar ddata bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Wedi ei gyhoeddi: 6 Gorffenaf 2023

Mae’r busnes gwasanaeth cwsmeriaid o Lannau Mersi, sydd wedi ennill sawl gwobr, The Contact Company a’r cwmni cenedlaethol Mach Recruitment Limited ymhlith wyth sefydliad sydd wedi methu terfynau amser i adrodd ar ddata 2022–23 ar y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyflog yn eu cwmnïau rhwng dynion a menywod, a elwir yn 'bwlch cyflog rhwng y rhywiau'.

Mae sefydliadau nad ydynt yn cyhoeddi’r data yn cael hysbysiad rhybuddio gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn bygwth camau gorfodi ffurfiol, gan gynnwys cynlluniau gweithredu neu ymchwiliadau y gellir eu gorfodi, os ydynt yn torri cyfraith cydraddoldeb. Yna, os na fydd sefydliadau’n rhoi’r camau gofynnol ar waith, gall y Comisiwn ofyn am orchymyn llys i roi dirwy ddiderfyn.

Ym mis Ebrill a mis Mai 2023, anfonodd y CCHD hysbysiadau rhybuddio at 730 o sefydliadau a oedd wedi methu terfynau amser adrodd 2022-23 ar 30 Mawrth a 4 Ebrill. Mae bron i 700 o'r rhain bellach wedi adrodd. Ond mae wyth yn parhau heb wneud, mae'r rhestr lawn bellach ar gael ar ein gwefan .

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i sefydliadau yn y sector preifat ledled Prydain, a chyrff cyhoeddus yn Lloegr sydd â 250 neu fwy o weithwyr, gyhoeddi eu gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn.

Mae'n ofynnol i gyflogwyr sector cyhoeddus Lloegr ddarparu eu gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau erbyn 30 Mawrth, ac mae'n ofynnol i gyflogwyr yn y sector preifat a gwirfoddol ledled Prydain a rhai cyrff sector cyhoeddus yn Lloegr ddarparu'r wybodaeth erbyn 4 Ebrill.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae’r gofyniad i adrodd ar ddata ar y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod yn helpu cwmnïau i ddeall a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cyflog. Mae gweithleoedd tecach yn denu staff, yn ymgysylltu â gweithwyr, ac yn creu amgylcheddau gwaith cynhyrchiol.

“Gwyddom mai’r wybodaeth hon am fylchau cyflog sy’n cael yr effaith fwyaf pan gaiff ei defnyddio i ysgogi camau gweithredu. Dyna pam rydym yn parhau i argymell bod y llywodraeth yn cyflwyno gofyniad ar gyflogwyr cymwys i gynhyrchu cynlluniau gweithredu manwl yn nodi sut y byddant yn cau eu bylchau cyflog.

“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, rydyn ni’n gyfrifol am orfodi’r gyfraith. Rydym yn ysgrifennu at y rhai sydd heb adrodd eto eleni a byddwn yn cymryd camau gorfodi lle bo'n briodol."

Nodiadau i Olygyddion

  1. Ochr yn ochr â’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig, gwnaethom gyhoeddi canllawiau i helpu sefydliadau i ysgrifennu eu cynllun gweithredu eu hunain.
  2. Y llynedd, methodd 28 o sefydliadau ag adrodd ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn pryd . Yn dilyn camau gweithredu gan y Comisiwn, mae'r sefydliadau hyn i gyd bellach wedi adrodd ar eu bylchau cyflog.
  3. Mae un sefydliad a fethodd y dyddiad cau yn 2021-22 hefyd wedi methu’r dyddiad cau yn 2022-23. Y rhain yw Mach Recruitment Limited.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com