Annwyl Ms Forstater, Ms Cunningham, Ms Bull a Ms Hilton,
Rwy’n ysgrifennu mewn ymateb i’r llythyr agored at Gomisiynwyr y Comisiwn a gyhoeddwyd ar eich gwefan ar 7 Mai.
Fel y gwyddoch, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pawb rhag gwahaniaethu oherwydd credoau crefyddol neu athronyddol, yn y gwaith, fel mewn meysydd eraill o fywyd. Cymerwyd ein penderfyniad diweddar i ymyrryd yn achos Ms Forstater i gynghori'r llys ar sut mae cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol yn berthnasol yn y maes cymhleth hwn o ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd. Fel gyda phob un o’n hachosion cyfreithiol, mae crynodeb yn ymddangos ar ein gwefan.
Nid yw ein hannibyniaeth a’n didueddrwydd yn agored i drafodaeth, wedi’i ddiogelu mewn statud, ac mae’n hynod bwysig i bopeth a wnawn. Byddwn yn parhau i geisio egluro’r gyfraith i amddiffyn hawliau pawb y gwahaniaethir yn eu herbyn oherwydd nodweddion gwarchodedig.
O ran ein haelodaeth o gynllun Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall, mae awgrymu bod hyn yn effeithio ar ein didueddrwydd yn gwbl anghywir a di-sail. Mae'r rhaglen ar gyfer cyflogwyr ac mae ein haelodaeth bob amser yn ymwneud yn gyfan gwbl â'n materion mewnol, ni chafodd unrhyw ddylanwad ar unrhyw waith allanol.
Fodd bynnag, fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y dewisiadau gorau o ran ein cyllideb ac rydym wedi bod yn adolygu ein holl aelodaeth yn ddiweddar.
Fe wnaethom ysgrifennu at Stonewall ym mis Mawrth i roi gwybod iddynt na fyddem yn adnewyddu ein haelodaeth, ac mae hyn bellach wedi dod i ben. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i greu gweithle cynhwysol a fydd yn denu pobl o bob cefndir, lle bydd ein holl gydweithwyr yn ffynnu a lle mae pob gweithiwr LHDT yn ogystal â phobl â nodweddion gwarchodedig eraill yn cael eu derbyn yn ddieithriad.
Cofion cynnes,
Y Farwnes Kishwer Falkner
Cadeirydd, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol