Dywedodd Marcial Boo, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Rydym yn siomedig gydag adroddiadau parhaus yn y cyfryngau am ymchwiliad mewnol.
“Mae gennym ni ddyletswydd i ddelio â chwynion yn gyfrinachol. Mae hefyd yn ofynnol i ni ddiogelu uniondeb ymchwiliadau mewnol. Rydym yn annog y cyfryngau i osgoi rhagfarnu'r canlyniad.
“Mae ein staff yn gweithredu gyda niwtraliaeth a phroffesiynoldeb. Gall rhai materion cyfreithiol yr ydym yn cynghori arnynt, yn enwedig yn ymwneud â rhyw a rhywedd, fod yn gymhleth iawn, ac mae amrywiaeth o safbwyntiau ymhlith ein harbenigwyr, fel yn y gymdeithas.
“Nid oes unrhyw gyngor yn cael ei 'ddiystyru'. Ein rôl ni yw gwneud dyfarniadau ar feysydd anodd a chynhennus iawn o'r gyfraith ar ôl ystyried pob cyngor.
“Rydym yn gweithredu polisi drws agored ac yn gwrando ar bobl ac yn ymgysylltu â nhw, y tu mewn a’r tu allan i’n sefydliad, y mae eu barn yn adlewyrchu’r sbectrwm cyfan o farnau. Mae hyn yn helpu i gefnogi penderfyniadau cryf a diduedd sy’n canolbwyntio ar dystiolaeth a’r gyfraith.”
O ran lles staff:
“Mae lles staff yn hollbwysig i ni. Cadarnhaodd ein harolwg staff diweddar fod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn weithle cadarnhaol a chefnogol.
“Rydym yn trin honiadau o fwlio ac aflonyddu gyda’r difrifoldeb mwyaf, gan ddilyn y broses gywir, a chyfarwyddo ymchwilwyr annibynnol lle bo’n briodol, er mwyn rhoi sicrwydd i bob parti dan sylw. Byddai’n anghywir gwneud sylwadau ar fanylion penodol tra bod ymchwiliadau’n parhau.”
Ynglŷn â’n llythyr diweddar i’r llywodraeth ar y Ddeddf Cydraddoldeb:
“Trafododd staff gweithredol ac anweithredol ystod eang o safbwyntiau, cyngor a thystiolaeth ar faterion cyfreithiol, polisi a materion ymarferol yn ymwneud â gweithredu’r Ddeddf Cydraddoldeb, yn gywir ddigon, cyn dweud bod y diffiniad o ‘ryw’ yn y gyfraith yn fater y dylai'r llywodraeth ystyried.
“Roeddem yn glir yn ein llythyr y bydd y CCHD yn parhau i amddiffyn hawliau pawb ym Mhrydain, gan gynnwys y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig rhyw ac ailbennu rhywedd.”
Cyfeiriwyd at nifer o honiadau mewn adroddiad ar Channel 4 News am yr ymchwiliad mewnol. Rhoddir ein hymateb i'r rhain isod.
1. Ar hawliadau yn ymwneud ag ymadawiadau staff:
“Byddai’n amhriodol gwneud sylw ar faterion staffio unigol.
“Mae ymadawiad staff ar bob lefel yn cael ei yrru gan nifer o ffactorau, gan gynnwys cyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa mewn mannau eraill, ymddeoliadau a secondiadau yn dod i ben. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at waith pwysig y Comisiwn.
“Rydym yn sefydlu strwythur uwch newydd i arwain y gwaith o adlinio timau a swyddogaethau mewnol er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein cynllun strategol yn well. Un rhan o’r ad-drefnu hwn yw recriwtio dirprwy brif weithredwr.”
2. O ran boddhad staff LHDTC+:
“Mae’r CCHD yn lle da i weithio. Mae ein trosiant blynyddol yn unol â’r cyfartaledd ar draws y sector cyhoeddus ac yn gwella.
“Mae ein dyletswydd gofal i staff yn hollbwysig. Rydym yn parhau i weithio gyda'n Fforwm Staff, Undebau Llafur a Rhwydweithiau Gweithwyr (gan gynnwys staff LHDTC+) i fynd i'r afael â materion wrth iddynt godi. Arweinir y gwaith hwn yn briodol gan y prif weithredwr a’r arweinwyr gweithredol ac fe’i cefnogir yn llawn gan y Bwrdd.”
3. Ar hawliadau didueddrwydd:
“Mae ein penderfyniadau yn cael eu gwneud, ac wedi cael eu gwneud erioed, yn annibynnol ar unrhyw lywodraeth.
“Rydym yn derbyn llythyrau’n rheolaidd gan weinidogion y llywodraeth ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol. Rydym yn ystyried pob un yn ofalus ac yn ymateb fel y bo'n briodol, fel y gwnawn ar gyfer ein holl randdeiliaid.
“Mae’n ddyletswydd arnom i gynghori llywodraeth y DU ar effeithiolrwydd cyfraith cydraddoldeb. Mae Adran 11 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 yn nodi y gallwn gynghori llywodraeth y DU ar effeithiolrwydd cyfraith cydraddoldeb.
“Rydym yn gwneud pob penderfyniad yn ddiduedd, yn seiliedig ar dystiolaeth a’r gyfraith, yn y DU ac yn rhyngwladol.
“Mae ein hannibyniaeth wedi ei warantu mewn statud.
“Mae’r ffordd y mae’r CCHD yn cael ei lywodraethu, a’r modd y penodir Comisiynwyr, wedi’i nodi yn y Ddeddf Cydraddoldeb ac nid yw wedi newid ers sefydlu’r Comisiwn.”
4. Ynghylch ein gwaith ar gyfer pobl draws:
“Cafodd y CCHD ei sefydlu gan y Senedd i amddiffyn hawliau pawb ym Mhrydain. Mae hyn yn cynnwys hawliau pobl draws. Mae gennym y pŵer i gymryd camau yn erbyn unrhyw un sy'n gwahaniaethu yn erbyn pobl draws. Rydym wedi gwneud hynny.
"Rydym hefyd yn cymryd camau i hyrwyddo hawliau pobl draws. Mae hyn yn cynnwys mynediad teg i ofal iechyd a gwasanaethau ailbennu rhywedd. Rydym wedi hyrwyddo hawliau pobl draws i'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol dro ar ôl tro. Mae ein cynllun busnes 2023 i 2024 yn cynnwys cynllun arfaethedig gwaith i wella mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd ymhellach.
“Rydym hefyd wedi codi pryderon yn uniongyrchol gyda gweinidogion am amseroedd aros hir a chyngor a chefnogaeth annigonol, ac am faterion penodol fel ‘rhestr ymarferwyr’ y llywodraeth ar gyfer darparu diagnosis dysfforia rhywedd, y gwyddom ei fod yn rhwystr i rai pobl draws i gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd. Rydym wedi nodi hwn fel maes gwaith lle gallwn ni a sefydliadau cymdeithas sifil gydweithio'n effeithiol i gefnogi pobl draws."
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com