Heddiw bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn cynnal digwyddiad ar gyfer uwch arweinwyr ac ymarferwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o bob rhan o luoedd arfog Prydain a’r heddlu a’r gwasanaethau tân.
Bydd y Digwyddiad Cyfnewid Cydraddoldeb yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle a’r ddyletswydd ataliol newydd i bob cyflogwr a ddaeth i rym ar 26 Hydref 2024.
Cyflwynodd Deddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 rwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar eu staff.
Cyn y newid hwn yn y gyfraith, cyhoeddodd yr EHRC ganllawiau technegol wedi’u diweddaru i gyflogwyr ar y camau y gallant eu cymryd i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Bydd cynrychiolwyr o gymysgedd o gyrff proffesiynol cenedlaethol, heddluoedd a gwasanaethau unigol, undebau llafur a rhwydweithiau gweithwyr yn mynychu digwyddiad heddiw. Ei nod yw gwella dealltwriaeth y cynadleddwyr o'u dyletswyddau cyfreithiol i amddiffyn eu gweithlu a sut y gallant roi canllawiau'r EHRC ar waith.
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen waith barhaus y mae’r EHRC yn ei chyflawni i helpu i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail rhyw a hil yn yr heddlu a’r gwasanaethau tân a’r lluoedd arfog yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Sefydlwyd rhaglen waith gwasanaethau mewn lifrai yr EHRC mewn ymateb i sawl adroddiad annibynnol hynod feirniadol yn amlygu aflonyddu ac erledigaeth swyddogion benywaidd a lleiafrifoedd ethnig yn bennaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Mae pobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau mewn lifrai yn cysegru eu bywydau i wasanaethu eraill, yn aml yn wynebu risgiau yn y gwaith ar ein rhan. Mae ganddyn nhw hawl i wneud eu gwaith hanfodol heb ofni aflonyddu, gwahaniaethu nac erledigaeth.
"Rydym yn gwybod bod y rhain yn weithleoedd unigryw. Ond fel cyrff cyhoeddus sydd â dyletswyddau penodol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, dylai ein gwasanaethau mewn lifrai fod yn arweinwyr mewn safonau ar gyfer amddiffyn eu cyflogeion.
"Ac fel pob cyflogwr arall ar draws y wlad, mae gan ein gwasanaethau mewn lifrai hefyd ddyletswydd newydd i fod yn rhagweithiol yn amddiffyn eu gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol. Mae'r newid hwn yn y gyfraith yn anelu at wella diwylliannau gweithleoedd, sydd yn llawer rhy aml yn gallu cyfrannu at yr aflonyddu mae swyddogion yn parhau i brofi.
"Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, rydym yn gweithio i fynd i'r afael â'r materion hyn gydag arolygiaethau gwasanaethau mewn lifrai, ombwdsmyn a chyrff cenedlaethol ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban."
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com