Newyddion

EHRC yn cyhoeddi adroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer 2023-24

Wedi ei gyhoeddi: 12 Medi 2024

Heddiw, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ei adroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24, a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.

Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, a Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol statws 'A', mae'r EHRC yn gweithio i herio gwahaniaethu ac amddiffyn hawliau a rhyddid pawb.

Mae ehangder ac effaith y gwaith a wnaed i wneud Prydain yn wlad decach dros y flwyddyn ddiwethaf wedi’i nodi yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf.