Newyddion

Datganiad ynghylch canllawiau’r Adran Addysg i ysgolion a cholegau yn Lloegr ar gwestiynu rhywedd plant

Wedi ei gyhoeddi: 19 Rhagfyr 2023

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Er nad oedd y Comisiwn yn ymwneud â datblygu’r drafft hwn, rydym yn croesawu ei gyhoeddiad hir-ddisgwyliedig, sy’n cynrychioli cam tuag at egluro’r gyfraith yn y maes cymhleth ac esblygol hwn.

“Mae’r canllawiau yn rhoi cyngor ymarferol i ysgolion a cholegau yn Lloegr, y byddwn yn ei ystyried yn ofalus yn fanwl, cyn ymateb i ymgynghoriad yr Adran Addysg maes o law.”

Nodiadau i Olygyddion

  1. Ar 22 Medi 2023, cyhoeddodd yr EHRC Ganllawiau Technegol wedi’u diweddaru i Ysgolion yn Lloegr a’r Alban, ar rwymedigaethau cyfreithiol i ysgolion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.