Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Bydd Deddf Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) yn newid yn sylweddol sut y gall pobl a aned neu sy’n byw yn yr Alban newid eu rhyw gyfreithiol trwy gaffael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gydnabyddiaeth gyfreithiol a phersonol bwysig i lawer o bobl draws.
“Trwy gydol y broses ddeddfwriaethol buom yn ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth yr Alban a’r DU, ASAau gan gynnwys y rhai ar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Sifil, yn ogystal ag amrywiaeth o randdeiliaid. Ein barn ni oedd bod y fframwaith cyfreithiol presennol yn darparu’r cydbwysedd cywir a oedd yn amddiffyn pawb orau.
“Rydym yn cydnabod mandad democrataidd Llywodraeth yr Alban i ddeddfu ar y materion hyn, gyda chefnogaeth Senedd yr Alban. Er bod y ddadl ynghylch y ddeddfwriaeth hon wedi'i herio, mae'n bwysig dod o hyd i atebion adeiladol i ddiwallu anghenion pawb. Fel y rheoleiddiwr cydraddoldeb, byddwn yn parhau i gyflawni ein mandad statudol i gynnal a chynghori ar y fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb yn yr Alban a ledled Prydain.
“Rydym yn croesawu mabwysiadu gwelliant y llywodraeth sy’n rhoi dyletswydd ar Weinidogion i gynhyrchu canllawiau ar weithrediad y Ddeddf Cydraddoldeb, ac ymgynghori â’r CCHD a chyrff cydraddoldeb a hawliau dynol eraill wrth wneud hynny.
“Rydym yn annog llywodraethau’r Alban a’r DU i gydweithio i leihau’r risg o ansicrwydd ynghylch y goblygiadau trawsffiniol posibl a godwyd gennym yn flaenorol gyda nhw, fel mater o frys nawr bod Senedd yr Alban wedi pasio’r diwygiadau hyn”.
Darllenwch ein llythyr at y Gwir Anrh. Kemi Badenoch AS Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Llywydd y Bwrdd Masnach a'r Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb (anfonwyd 22 Rhagfyr 2022)
Darllenwch ein papur briffio ar gyfer ASAau (cyhoeddwyd 14 Tachwedd 2022):
Darllenwch ein cyngor i lywodraethau’r Alban a’r DU (cyhoeddwyd 5 Hydref 2022):
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com