Newyddion

Datganiad yn dilyn dadansoddiad y Comisiynydd Plant o noeth-chwiliadau'r heddlu o blant ledled Cymru a Lloegr

Wedi ei gyhoeddi: 28 Mawrth 2023

Rydym yn croesawu adroddiad heddiw gan Gomisiynydd Plant Lloegr.

Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, rydym yn arbennig o bryderus ynghylch y canfyddiad bod plant Du hyd at chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu noeth-chwilio o gymharu â’r boblogaeth genedlaethol.

Rydym hefyd yn pryderu am y problemau systemig a godwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â diogelu, yn enwedig y diffyg craffu ar y chwiliadau a gynhaliwyd gan yr heddlu.

Byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad yn ofalus ac ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio’r ystod lawn o’n pwerau rheoleiddio os oes angen.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com