Newyddion

Datganiad yn dilyn cyhoeddi’r Bil Mudo Anghyfreithlon

Wedi ei gyhoeddi: 7 Mawrth 2023

Mae'n hollbwysig bod y llywodraeth yn gweithredu i sicrhau nad yw mwy o fywydau'n cael eu colli ar groesfannau peryglus y Sianel. Rydym yn croesawu ac yn cefnogi addewid y llywodraeth i sefydlu llwybrau rheolaidd, diogel a chyfreithlon ar gyfer y rhai sydd angen eu hamddiffyn.

Fodd bynnag, drwy gyfyngu ar allu grwpiau penodol i wneud hawliadau hawliau dynol o dan y Ddeddf Hawliau Dynol, mae’r Bil Mudo Anghyfreithlon arfaethedig mewn perygl o danseilio egwyddor graidd cyffredinolrwydd hawliau dynol, a lleihau amddiffyniadau.

Rydym yn croesawu bwriad y llywodraeth i aros o fewn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR). Serch hynny, rydym yn pryderu bod y ddeddfwriaeth mewn perygl o dorri rhwymedigaethau cyfreithiol y DU o dan y Confensiwn Ffoaduriaid a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Rydym yn annog y llywodraeth i sicrhau bod gweithdrefnau ac arferion sy'n gysylltiedig â'i memorandwm cyd-ddealltwriaeth â Rwanda yn cydymffurfio â chyfraith hawliau dynol rhyngwladol, yn enwedig i ddiogelu hawliau dioddefwyr masnachu mewn pobl, plant a phobl LHDT.

Byddwn yn dadansoddi’r ddeddfwriaeth ac yn cynghori llywodraeth y DU a Senedd y DU ar ei goblygiadau o ran cydraddoldeb a hawliau dynol maes o law.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com