Newyddion

Datganiad yn dilyn cyhoeddi'r Bil Arferion Trosi

Wedi ei gyhoeddi: 17 Ionawr 2023

Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth y DU.

Mae arferion trosi yn niweidiol ac rydym wedi cefnogi dod â nhw i ben ers tro mewn perthynas â chyfeiriadedd rhywiol a bod yn drawsryweddol.

Yn unol â’n hymateb i’w hymgynghoriad y llynedd, rydym yn falch bod y llywodraeth yn cydnabod bod angen iddi ddiffinio ei thelerau’n ofalus, fel nad yw cymorth meddygol cyfreithlon yn cael ei ddal gan y gwaharddiad, a rhyddid crefyddol yn cael ei ddiogelu.

Rydym hefyd yn falch o weld y cynlluniau i’r Senedd gynnal craffu cynhwysfawr ar y ddeddfwriaeth, a argymhellwyd gennym. Bydd hyn yn sicrhau, nid yn unig bod arferion niweidiol yn cael eu hatal, ond hefyd y gall y rhai yr effeithir arnynt ganddynt dderbyn y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Byddwn yn ystyried y ddeddfwriaeth ddrafft yn ofalus fel y gallwn ni, a’r Senedd, asesu’n briodol y goblygiadau hawliau dynol i bawb y mae’r cynigion yn effeithio arnynt.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com