Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau’r llywodraeth roi sylw dyledus i sut mae eu polisïau a’u penderfyniadau’n effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig.
“Rydym yn ymwybodol bod Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi wedi cyhoeddi papur polisi ar 13 Tachwedd, yn ymwneud â newidiadau i drothwyon cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Roedd hyn yn cynnwys crynodeb o effeithiau.
“Mae rhwymedigaeth ar CThEF i fod wedi ystyried effaith y newidiadau hyn ar gydraddoldeb ac, yn hollbwysig, dylent allu dangos tystiolaeth eu bod wedi gwneud hynny. Byddem yn disgwyl i CThEF fod wedi llunio ystyriaeth gydraddoldeb fanylach o'r newidiadau.
“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain rydym wedi ysgrifennu at CThEF, yn atgoffa’r adran o’i rhwymedigaethau PSED ac yn ceisio sicrwydd eu bod wedi’u bodloni’n ddigonol.”
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com