Newyddion

Datganiad EHRC ar enghreifftiau o ganllawiau fannau un rhyw a rhywedd hunan-adnabyddedig anghywir

Wedi ei gyhoeddi: 17 Rhagfyr 2024

Ym mis Mai 2024 lansiodd llywodraeth flaenorol y DU alwad am fewnbwn yn ceisio enghreifftiau o bolisïau neu ganllawiau sy’n awgrymu’n anghywir bod gan bobl hawl gyfreithiol i gael mynediad at fannau a gwasanaeth un rhyw yn unol â’u rhywedd hunan-adnabyddedig.

Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Cydraddoldeb a Chyfle ei hymateb. Mae’r Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau wedi ysgrifennu at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i rannu’r canfyddiadau ac i wahodd y rheoleiddiwr cydraddoldeb i archwilio’r enghreifftiau ymhellach fel y bo’n briodol.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb annibynnol Prydain, byddwn yn ystyried unrhyw atgyfeiriadau ynghylch polisïau neu ganllawiau anghywir yn ofalus, yn unol â’n polisi ymgyfreitha a gorfodi. Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg, yn gyson â’r Ddeddf Cydraddoldeb.

“Mae hwn yn faes cymhleth o’r gyfraith ac rydym yn gwerthfawrogi bod angen cymorth ar ddarparwyr gwasanaethau i ymdopi â’r heriau hyn.

“Dylai pob darparwr gwasanaeth a chynghorydd cyfreithiol gyfeirio at ein canllawiau mannau un rhyw wrth ddatblygu neu adolygu eu polisïau eu hunain. Mae’r canllawiau hyn yn disgrifio sut i wneud penderfyniadau cyfreithlon am unrhyw wasanaeth y maent yn ei gynnig i fenywod a dynion ar wahân. Mae’n esbonio’r eithriadau rhyw ac ailbennu rhywedd a ganiateir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

“Er mwyn adlewyrchu ac egluro’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd, rydym hefyd yn y broses o ddiweddaru ein Cod Ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Bydd y Cod diwygiedig yn cael ei osod gerbron Senedd y DU a’i gyhoeddi flwyddyn nesaf.”

Mae’r EHRC ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ei God Ymarfer diwygiedig ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau.

Mae'r Cod statudol yn egluro'r camau ymarferol y dylid eu cymryd i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn unrhyw un. Ymhlith diwygiadau eraill, mae wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r ddealltwriaeth gyfreithiol a nodir yng nghanllaw mannau un rhyw 2022 a datblygiadau sylweddol mewn cyfraith achosion ers cyhoeddi’r Cod gyntaf yn 2011.

Cefndir:

  • Bydd ymgynghoriad y Comisiwn ar ei God Ymarfer diwygiedig ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn cau am 17:00 ddydd Gwener 3 Ionawr 2025.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com