Newyddion

Datganiad ar y Mesur Hawliau

Wedi ei gyhoeddi: 12 Ionawr 2023

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol wedi gwella hawliau dynol a mynediad at gyfiawnder i bobl yn y DU yn sylweddol. Rydym yn bryderus iawn am yr effaith y byddai’r Bil Hawliau yn ei chael ar yr amddiffyniadau hyn.

Wrth aros am ddyddiad ar gyfer ail ddarlleniad y Bil, rydym wedi rhoi tystiolaeth i’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol gan dynnu sylw at nifer o bryderon.

Mae gennym bryderon difrifol y byddai’r Bil, pe bai’n cael ei basio heb welliannau, yn:

  • gwanhau amddiffyn hawliau dynol yn y DU
  • lleihau mynediad at iawndal am dorri hawliau dynol
  • â goblygiadau digroeso mewn perthynas â chydbwyso hawliau yng nghyd-destun rhyddid mynegiant
  • â goblygiadau cyfansoddiadol, gan gynnwys i'r Undeb a datganoli

Mae’n hanfodol bod y llywodraeth yn cynnal egwyddorion sylfaenol y fframwaith hawliau dynol sy’n ein hamddiffyn ni i gyd, yn enwedig cyffredinolrwydd hawliau dynol, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â llywodraeth y DU i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Prydain.

Darllenwch ein cyflwyniad tystiolaeth i'r Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol .

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com