Newyddion

Datganiad ar y Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban).

Wedi ei gyhoeddi: 18 Ionawr 2023

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, rydym wedi ymgysylltu’n fanwl â’r Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban) a basiwyd gan Senedd yr Alban ym mis Rhagfyr. Rydym yn parhau i fod yn barod i barhau i gynghori Senedd y DU a Senedd yr Alban ar gyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol, sy’n dod o fewn ein cylch gwaith.

“Rydym wedi nodi ein dadansoddiad o oblygiadau trawsffiniol y Bil ar gyfer gweithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 mewn papurau briffio a llythyrau at seneddwyr yr Alban a llywodraeth y DU.

“Byddwn yn parhau i ddarparu cyngor arbenigol annibynnol ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol perthnasol, yn unol â’n dyletswydd statudol.

“Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i alw am ymgysylltiad adeiladol rhwng llywodraethau’r DU a’r Alban ar y materion cymhleth hyn, er mwyn amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol pawb ym Mhrydain.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Ar 26 Ionawr 2022 ysgrifennodd y Comisiwn at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Tai a Llywodraeth Leol, yn nodi ein safbwynt ar ddiwygio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Wrth i’r bil gael ei gyflwyno, gwnaethom gyfnewid gohebiaeth bellach ag Ysgrifennydd y Cabinet.
  • Roedd y Comisiwn yn cefnogi gwaith craffu’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Sifil ar y mesur arfaethedig. Gwnaethom ymddangos gerbron y pwyllgor i roi tystiolaeth ac ysgrifennu at y Cynullydd.
  • Ar 20 Medi 2022 ysgrifennodd y Comisiwn at lywodraethau’r Alban a’r DU i nodi goblygiadau’r ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer gweithredu Deddf Cydraddoldeb 2010. Ar yr adeg hon, gwnaethom gyfarfod ag ASAau o amrywiol bleidiau gwleidyddol, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet, i'w briffio ar ein cyngor.
  • Ar 14 Tachwedd 2022 rhannodd y CCHD bapur briffio ysgrifenedig gyda’r holl ASAau, i’w cynorthwyo wrth iddynt ystyried manylion y Bil a’r gwelliannau yng Nghyfnod 2. Fe wnaethom rannu’r papur briffio hwn gyda phob ASA eto yng Nghyfnod 3.
  • Ar 22 Rhagfyr 2022 ysgrifennodd y Comisiwn at y Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb i grynhoi effaith bosibl y ddeddfwriaeth newydd.