Newyddion

Datganiad ar safbwynt UK Athletics (UKA) ar gyfranogiad pobl draws mewn athletau

Wedi ei gyhoeddi: 3 Chwefror 2023

Rydym yn pryderu bod dehongliad UK Athletics o’r ‘eithriad chwaraeon’, a nodir yn adran 195 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn anghywir. Mae gennym bryderon penodol ynghylch y dehongliad o sut mae’r ddarpariaeth honno’n rhyngweithio â Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Mae eu dehongliad yn groes i’n safbwynt y gall deiliaid Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC) gael eu heithrio’n gyfreithlon o dan yr ‘eithriad chwaraeon’ yn y Ddeddf Cydraddoldeb ar gyfer rhesymau dros gystadleuaeth deg a diogel. Nid ydym yn credu bod dyfarniad For Women Scotland wedi newid y safbwynt hwn.

Mae adran 195(1) yn creu eithriad cyffredinol i alluogi sefydliadau chwaraeon i wahaniaethu ar sail rhyw mewn perthynas â gweithgaredd chwaraeon ac yn darparu y gellir gwahanu chwaraeon yn gyfreithlon pan fo gweithgaredd ‘wedi’i effeithio gan rywedd’. Diffinnir gweithgaredd yr effeithir arno gan rywedd fel a ganlyn:

‘Gweithgaredd yr effeithir arno gan rywedd yw camp, gêm neu weithgaredd arall o natur gystadleuol mewn amgylchiadau lle byddai cryfder corfforol, stamina neu gorff personau cyffredin o un rhyw yn eu rhoi dan anfantais o gymharu â phersonau cyffredin o’r rhyw arall fel cystadleuwyr mewn digwyddiadau sy'n ymwneud â'r gweithgaredd.'

Mae adran 195 (2) wedyn yn caniatáu i sefydliadau wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd lle bo angen er mwyn sicrhau:

  • Cystadleuaeth deg, neu
  • Diogelwch cystadleuwyr

Mae’n debygol felly o fod yn gyfreithlon i gorff neu sefydliad chwaraeon fabwysiadu polisi traws-gyfyngedig mewn perthynas â chystadleuaeth chwaraeon ar sail rhywedd lle gallant ddangos bod angen gwneud hynny i sicrhau cystadleuaeth deg, neu ddiogelwch cystadleuwyr. Nid yw’r ddealltwriaeth hon o’r gyfraith wedi newid yn dilyn penderfyniad y Llys Sesiwn mewn perthynas â For Women Scotland, ac mae cyrff chwaraeon eraill yn cytuno â’r dehongliad hwn.

Fe wnaethom estyn allan i UK Athletics a chynnig trafod y cyngor cyfreithiol sy'n sail i'w datganiad. Rydym yn siomedig eu bod wedi dewis rhoi cyhoeddusrwydd i'w cyngor anghywir. Byddem yn annog pob sefydliad i edrych ar ein gwefan, sy'n esbonio cyfraith cydraddoldeb a sut mae'n berthnasol i'r materion hyn.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com 

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com