Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, mae ein cronfa cymorth cyfreithiol yn helpu unigolion i geisio cyfiawnder drwy dalu costau gweithredu cyfreithiol mewn achosion o wahaniaethu ar sail hil.
“Mae’r gyfraith yn glir: ni ddylai neb ddioddef aflonyddu neu wahaniaethu oherwydd eu hil neu ethnigrwydd, naill ai yn y gwaith nac yn rhywle arall.
“Mae gennym ni bryderon ers tro am y defnydd anghymesur o stopio a chwilio gan yr heddlu. Byddwn yn parhau i fonitro hyn.”
Dywedodd Mr Tallan Bent:
Rwy’n gobeithio, drwy ddwyn fy nghais yn erbyn yr Heddlu Metropolitan, fy mod wedi taflu goleuni ar eu methiant i barchu fy hawliau, ac rwyf am i bobl sy’n cael eu cam-drin gan yr heddlu wybod y gallant leisio’u barn.
Nodiadau i Olygyddion:
- Cafodd achos Mr Bent ei setlo cyn i unrhyw hawliad gael ei gyflwyno yn y llys. Gwadodd yr Heddlu Metropolitan eu bod wedi gwahaniaethu yn erbyn Mr Bent, ond fe gytunodd i dalu iawndal iddo fel rhan o'r setliad. Arweiniwyd yr achos gan y cwmni cyfreithiol Deighton Piece Glynn, a darparodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol arian.
- Helpodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ariannu’r achos hwn fel rhan o’n pwerau i ddarparu cymorth cyfreithiol i ddioddefwyr gwahaniaethu o dan adran 28 Deddf Cydraddoldeb 2006.
- Mae ein cronfa cymorth cyfreithiol yn talu costau cymryd camau cyfreithiol mewn achosion gwahaniaethu ar sail hil ar gyfer unigolion na fyddent fel arall yn gallu fforddio cynrychiolaeth gyfreithiol. Wedi'i lansio ym mis Tachwedd 2021, bydd ar agor am o leiaf dwy flynedd a bydd hyd at £250,000 o gyllid yn cael ei ddyrannu. Hyd yn hyn mae'r gronfa wedi cefnogi pobl gyda honiadau o wahaniaethu ar sail hil yn erbyn amrywiaeth o gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau, gan gynnwys manwerthwyr y stryd fawr, ysgolion, cwmnïau hedfan, banciau a thafarndai.
- Rydym yn cefnogi unigolion heb gynrychiolaeth gyfreithiol i gael mynediad at y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) i gael y cyngor sydd ei angen arnynt. Fel arall, gall ymarferwyr cyfreithiol wneud cais am gymorth tuag at achosion eu cleientiaid. Rydym hefyd yn penodi panel o gyfreithwyr a fydd yn ei gwneud yn haws i’r unigolion hyn ddod o hyd i gynrychiolaeth a chael mynediad at gyfiawnder gyda chefnogaeth y cynllun hwn.
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com