Gall aflonyddu rhywiol yn y gwaith ddigwydd unrhyw bryd. Gall risg fod yn uwch yn ystod tymor y Nadolig, gyda phartïon Nadolig yn y gweithle yn golygu bod staff yn cymdeithasu y tu allan i'r gwaith gyda'r nos, yn aml wrth yfed alcohol.
Mae dyletswydd ataliol Deddf Diogelu Gweithwyr 2023 yn golygu bod yn rhaid i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i amddiffyn eu staff rhag cael eu haflonyddu’n rhywiol yn y gwaith – p’un a ydynt yn mynychu parti Nadolig gwaith neu’n gweithio mewn un.
Mae partïon yn y gweithle yn gyfleoedd i gydweithwyr ddod at ei gilydd i ddathlu’r dathliadau a’u gwaith caled dros y flwyddyn. Os ydych chi'n gyflogwr, nid oes angen i chi ganslo'ch gweithgareddau Nadolig i gydymffurfio â'r gyfraith, ond mae angen i chi gymryd camau i fynd i'r afael â'r posibilrwydd o aflonyddu rhywiol.
Dyma dri phrif gam y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y dylai cyflogwyr eu cymryd wrth i’r dathliadau eleni ddechrau:
1) Meddyliwch ymlaen llaw i atal problemau
Meddyliwch am y risgiau a allai godi mewn digwyddiadau cymdeithasol:
- Alcohol: Mae alcohol yn lleihau swildod a gall arwain at ymddygiad amhriodol. Ystyriwch pa derfynau y gallwch eu gosod.
- Aros dros nos a theithio: Ar gyfer digwyddiadau sy'n cynnwys teithio neu aros dros nos, sicrhewch fod llety'n ddiogel ac yn briodol. Gwnewch yn glir bod yr un safonau ymddygiad yn berthnasol bob amser, nid yn ystod y digwyddiad ei hun yn unig.
- Anghydbwysedd pŵer: A yw uwch staff yn cymysgu â chydweithwyr iau? A oes gweithlu o ddynion yn bennaf? Sicrhewch fod pob cyflogai yn ymwybodol o'r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt.
2) Gosod disgwyliadau yn gynnar ac atgoffa cyflogeion o bolisïau'r cwmni
- Cyn digwyddiadau cymdeithasol, sicrhewch fod cyflogeion yn ymwybodol sut beth yw aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Atgoffwch staff beth i'w wneud os ydynt yn dyst i aflonyddu rhywiol neu'n profi aflonyddu rhywiol. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod sut i herio ac adrodd am unrhyw achosion. Atgoffwch nhw o'r safon ymddygiad a ddisgwylir ganddynt, p'un a ydych wedi trefnu'r digwyddiad neu os yw'n ddigwyddiad cymdeithasol anffurfiol.
3) Ystyried y risg o aflonyddu trydydd parti
- Rhaid i gyflogwyr gymryd camau i amddiffyn eu staff rhag aflonyddu gan gwsmeriaid, aelodau o'r cyhoedd neu drydydd partïon eraill. Wrth i gynlluniau parti gael eu datblygu, ystyriwch a oes risgiau o aflonyddu rhywiol gan unigolion y tu allan i'ch sefydliad. Gall ymwybyddiaeth o'r risgiau hyn eich helpu i benderfynu ar leoliadau mwy diogel, gweithgareddau neu agweddau eraill ar y digwyddiad sy'n helpu i ddiogelu staff. Rhowch wybod am safonau ymddygiad disgwyliedig eich sefydliad i drydydd partïon perthnasol.
I gael rhagor o gyngor, darllenwch ein harweiniad i wneud yn siŵr eich bod yn cymryd y camau angenrheidiol i gyflawni’r rhwymedigaethau cyfreithiol hyn.
Cefndir:
- Ym mis Medi fe gyhoeddodd yr EHRC Aflonyddu Rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith - canllawiau technegol
- Mae’r EHRC hefyd wedi diweddaru ei ganllaw 8 cam byr i gyflogwyr ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle.