Heddiw, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth y DU a Chymru o ran cynnal Confensiwn Istanbwl, sy’n ymrwymo’r ddwy lywodraeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched (VAWG). Mae'r adroddiad yn edrych ar y cynnydd a wnaed o ran amddiffyn menywod a merched ledled Cymru a Lloegr rhag trais.
O dan Gonfensiwn Istanbwl, mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi’u rhwymo gan gyfraith ryngwladol i gymryd camau i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau atal, erlyn y rhai sy'n gyfrifol a diogelu goroeswyr.
Mae'r EHRC yn croesawu targedau uchelgeisiol y ddwy lywodraeth i wella diogelwch menywod a merched, yn ogystal â'u ffocws ar ysgogi gwelliannau a throseddoli mathau newydd o drais fel seiberfflachio, a gafodd ei gynnwys yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Fodd bynnag, mae gwaith i'w wneud o hyd i wireddu'r targedau hyn i fenywod a merched. Mae’r meysydd ar gyfer gwelliant brys a amlygwyd gan yr adroddiad yn cynnwys:
- Trais a gyflawnir gan yr heddlu: Canfu data gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, mewn cyfnod o chwe mis yn unig rhwng Hydref 2021 a Mawrth 2022, fod mwy na 1,400 o honiadau unigryw o drais yn erbyn menywod a merched wedi’u cofnodi yn erbyn 1,539 o aelodau o weithlu’r heddlu yng Nghymru a Lloegr.
- Cyfraddau erlyn: Er gwaethaf y raddfa a adroddwyd, mae cyfraddau erlyn ar gyfer troseddau rhyw yn parhau i fod yn annerbyniol o isel.
- Mynediad i lochesi cam-drin domestig: Mae mynediad i lochesi cam-drin domestig hefyd yn peri pryder, gyda dim ond 1.1% o leoedd gwag mewn llochesi yn addas i fenywod â symudedd cyfyngedig. Roedd llai nag 1% yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn 2021/22.
Mae corff gwarchod cydraddoldeb Prydain yn gwneud argymhellion a fydd yn helpu Llywodraethau'r DU a Chymru i wella diogelwch menywod a merched. Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu camau pellach i fynd i’r afael â’r achosion o drais yn erbyn menywod a merched a gyflawnir gan yr heddlu. Fel y mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig wedi’i argymell, dylai hyn gynnwys sicrhau bod cardiau gwarant yn cael eu tynnu oddi ar swyddogion heddlu sy’n destun ymchwiliad am droseddau’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched; a chydnabyddiaeth statudol y dylai euogfarnau VAWG fod yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol yn awtomatig.
Mae’r EHRC hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i dynnu ei chymal cadw i Erthygl 59 o Gonfensiwn Istanbwl yn ôl.
Mae'r mater a gedwir yn ôl yn golygu nad yw menywod mudol sy'n ddioddefwyr trais yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol. Er bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i amrywiaeth o rwymedigaethau i amddiffyn menywod rhag trais o’r fath, nid yw wedi derbyn y cyfrifoldeb i sicrhau bod gan bob menyw fudol fynediad at hawliau preswylio annibynnol mewn achosion penodol o dor-perthynas sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig.
Mae hyn yn golygu bod rhai menywod mudol sy’n profi cam-drin domestig, a’u plant, yn cael eu gadael mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hamddifadu ymhellach.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Gall trais yn erbyn menywod a merched gael effeithiau ofnadwy, hirsymor, ac mae’n hanfodol bod mwy o gynnydd yn cael ei wneud i’w ddileu o’n cymdeithas yn barhaol.
“Cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn annog llywodraethau’r DU a Chymru i edrych yn fanwl ar ein hadroddiad a gweithredu ei argymhellion, fel y gallwn symud tuag at gymdeithas lle mae menywod a merched yn teimlo’n ddiogel yn eu bywydau bob dydd.”
Nodiadau i Olygyddion
- Mae Confensiwn Istanbwl yn cael ei fonitro gan y Grŵp Arbenigwyr ar Drais yn Erbyn Menywod (GREVIO). Ar hyn o bryd maent yn cynnal 'asesiad sylfaenol' o gydymffurfiaeth y DU â'r Confensiwn.
- Mae Erthygl 59 o'r Confensiwn yn ymwneud â statws preswylio. Mae’n nodi bod dioddefwyr y mae eu preswyliad yn dibynnu ar briod neu bartner yn cael trwydded breswylio ymreolaethol, mewn rhai amgylchiadau, os caiff y briodas neu’r berthynas honno ei diddymu. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gosod cymal cadw ar y cyfan o Erthygl 59, gydag ymrwymiad i adolygu’r mater a gedwir yn ôl yn seiliedig ar dystiolaeth o brosiect peilot tymor byr ar wahân ar y Cynllun Cymorth i Ddioddefwyr Mudol.
- Mae Llywodraeth y DU yn rhedeg cynllun sy’n caniatáu i ddioddefwyr cam-drin domestig sydd â fisa priod/partner wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros yn y DU. Fodd bynnag, nid yw menywod ar fathau eraill o fisa yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, er y gallai eu statws mewnfudo barhau i fod yn ddibynnol ar bartner camdriniol. Er enghraifft, byddai menywod sydd â chaniatâd i aros fel dibynyddion partner sydd ar fisa myfyriwr yn cael eu heithrio.
- Mae’r EHRC yn cydnabod bod y system fewnfudo yn gymhleth ac yn ormod o faich. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol i sicrhau bod hawliau’n cael eu cynnal heb gamddefnyddio’r system.
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com