Newyddion

CCHD yn 'siomedig' yn nyfarniad cartref gofal y Goruchaf Lys

Wedi ei gyhoeddi: 21 Mehefin 2023

Ymyrrodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn apêl a gyflwynwyd gan fam Jackie Maguire, person â syndrom Down ac anableddau dysgu.

Aeth Jackie yn ddifrifol wael tra'n byw mewn cartref gofal, lle cafodd ei chadw dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, ac yn anffodus bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Roeddem yn dadlau y dylai pobl fel Jackie Maguire, sy’n cael eu cadw oherwydd nad oes ganddynt y gallu i benderfynu ar eu gofal a ble y dylent fyw, fod yn ddyledus i’r un lefel o amddiffyniad hawliau dynol â grwpiau eraill sy’n agored i niwed, fel y rhai sy’n cael eu cadw mewn ysbytai iechyd meddwl, carchardai neu ddalfa'r heddlu. Byddai hyn wedi galluogi'r rheithgor yng nghwest Ms Maguire i wneud sylwadau ar fethiannau honedig y rhai oedd yn gofalu amdani.

Penderfynodd y Goruchaf Lys heddiw nad yw pobol sy’n byw mewn cartrefi gofal sy’n cael eu hamddifadu o’u rhyddid er eu lles eu hunain yn yr un sefyllfa â charcharorion a grwpiau tebyg eraill. Mae ganddynt yr un amddiffyniadau hawliau dynol ag sy'n berthnasol i'r boblogaeth gyffredinol.

Dywedodd Marcial Boo, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rydym wedi ein siomi gan ddyfarniad heddiw gan y Goruchaf Lys, yn dilyn achos Jackie Maguire, oedd â syndrom Down ac anableddau dysgu.

“Roedd marwolaeth Jackie Maguire yn drasig iawn. Credwn y dylai Jackie fod wedi cael yr un amddiffyniadau hawliau dynol ag eraill a amddifadwyd o'u rhyddid, lle mae gan y wladwriaeth gyfrifoldebau ychwanegol drostynt.

“Byddwn yn parhau i ddadlau dros amddiffyniadau pellach i aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, a gobeithio y bydd modd atal marwolaethau fel hyn yn y dyfodol.”

Nodiadau i olygyddion

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com