Newyddion

Canllawiau wedi'u cyhoeddi ar gyfer darparwyr gwasanaethau un rhyw

Wedi ei gyhoeddi: 24 Awst 2022

Mae canllaw ymarferol i’r gyfraith mewn perthynas â mannau un rhyw wedi’i gyhoeddi gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) heddiw.

Mae’r canllawiau’n helpu darparwyr gwasanaethau i wneud penderfyniadau cyfreithlon am unrhyw wasanaethau y maent yn eu cynnig i fenywod a dynion ar wahân, drwy egluro’r eithriadau rhyw ac ailbennu rhywedd a ganiateir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’n cynghori sefydliadau fel ysbytai, manwerthwyr, lletygarwch a chlybiau chwaraeon i roi polisïau cyfreithiol ar waith sy’n cydbwyso anghenion gwahanol grwpiau.

Mae’r canllawiau’n cadarnhau bod darparwyr gwasanaethau sy’n dymuno cyfyngu gwasanaethau i un rhyw yn gallu gwneud hynny’n gyfreithiol, ar yr amod bod y rhesymau’n gyfiawn ac yn gymesur.

Gall darparwyr hefyd ddewis agor eu gwasanaethau i bob grŵp. Gall hyn fod yn gyfreithlon hefyd. Mae'r canllawiau'n helpu darparwyr i ddeall sut i roi polisïau cyfreithiol ar waith sy'n bodloni anghenion eu holl ddefnyddwyr gwasanaeth orau.

Mae meysydd allweddol y canllawiau yn nodi:

  • Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, rhaid i chi beidio â gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd nodweddion gwarchodedig rhyw neu ailbennu rhywedd. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf yn cynnwys 'eithriadau' sy'n caniatáu'n gyfreithlon i sefydliadau eithrio, addasu neu gyfyngu ar fynediad i rai grwpiau dan rai amgylchiadau.

    Yn achos gwasanaethau ar wahân neu un rhyw, rhaid i ddarparwyr ddangos bod darparu'r gwasanaeth yn wahanol yn 'fodd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon'. Gallai hyn fod am resymau preifatrwydd, gwedduster, atal trawma neu er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch. Mae'r canllawiau'n cynnwys rhai sefyllfaoedd lle mae eithriadau o'r fath yn bosibl.
  • Pwyntiau i'w hystyried wrth gymhwyso eithriadau . Wrth benderfynu a ddylid defnyddio eithriad, rhaid i ddarparwyr gwasanaeth un rhyw ystyried nifer o ffactorau. Mae'r rhain yn cynnwys hawliau ac anghenion pob defnyddiwr, gan gynnwys pobl draws.
  • Camau ymarferol i helpu i wneud penderfyniadau. Mae’r canllawiau’n cynnig cyngor i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau un rhyw ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion eu holl ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl draws. Mae’n cynghori sefydliadau i roi polisïau ar waith, wedi’u llywio gan ein canllawiau a’r gyfraith, sy’n benodol i’w hamgylchiadau eu hunain.

Nid yw’r canllawiau’n mynd i’r afael â’r ddadl ehangach ar ryw a hunaniaeth o ran rhywedd. Mae’n egluro’r gyfraith ar gyfer darparwyr gwasanaethau, fel y mae rhanddeiliaid amrywiol wedi galw amdani, gan gynnwys y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn y Senedd.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

Ein bwriad yn y CCHD yw amddiffyn hawliau pawb a  sicrhau bod pobl ledled Prydain yn cael eu trin yn deg.

Nid oes lle i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un ar sail eu rhyw neu ailbennu rhywedd.

Lle mae hawliau rhwng grwpiau yn cystadlu, ein dyletswydd fel rheoleiddiwr annibynnol yw helpu darparwyr gwasanaethau ac eraill i gydbwyso anghenion gwahanol ddefnyddwyr yn unol â'r gyfraith.

Mae gan sefydliadau hawl gyfreithiol i gyfyngu gwasanaethau i un rhyw o dan rai amgylchiadau. Ond mae angen cymorth arnynt i lywio'r ardal sensitif hon. Dyna pam yr ydym wedi cyhoeddi’r canllawiau hyn – i egluro’r gyfraith a chynnal hawliau pawb.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com