Profodd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar gyflog is, a chwaraeodd rôl rheng flaen ganolog yn ystod pandemig COVID-19, fwlio, hiliaeth ac aflonyddu yn y gwaith yn ôl eu tystiolaeth i ymchwiliad a gynhaliwyd gan reoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, y tîm Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD).
Gallai casglu data gwael gan eu cyflogwyr hefyd fod yn cuddio graddau’r gwahaniaethu yn eu herbyn, yn ôl adroddiad yr ymchwiliad.
Canfu’r ymchwiliad fod ansicrwydd swydd yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn achosi ofn erledigaeth ymhlith staff lleiafrifoedd ethnig ar gyflog isel, yn enwedig os oeddent am godi pryderon. Amlygodd y canfyddiadau fod gweithwyr lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a Lloegr yn fwy tebygol o gael eu cyflogi ar gontractau dim oriau a bod ansicrwydd swydd hefyd wedi cyfrannu at ofn erledigaeth a cholli swyddi.
Wedi’i lansio gan y CCHD ym mis Tachwedd 2020, archwiliodd yr ymchwiliad brofiadau gweithwyr o amrywiaeth o leiafrifoedd ethnig a gyflogir mewn rolau â chyflog is yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Roedd eu rolau yn cynnwys cynorthwywyr gofal iechyd, porthorion, glanhawyr, staff diogelwch a gweithwyr gofal preswyl, cartref a phersonol.
Archwiliwyd hefyd ffactorau cysylltiedig â gwaith a allai fod wedi cyfrannu at eu risg o gontractio COVID-19, megis oriau a weithiwyd, diwylliant y gweithle, hyfforddiant yn y gweithle a pholisïau.
Wedi’i gyhoeddi heddiw (9 Mehefin 2022), mae’r adroddiad 67 tudalen yn datgelu diffyg data am y gweithwyr hyn, sy’n gysylltiedig â lefelau isel o gyfrifoldeb ac atebolrwydd ar eu cyfer gan y sefydliadau allanol sy’n eu cyflogi. Mae'r adroddiad yn amlygu y gallai'r data coll guddio graddfa'r gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflog is mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y CCHD:
Mae staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig y rhai ar y rheng flaen, ymhlith arwyr y pandemig Covid. Roeddent yn wynebu pwysau a risg sylweddol i'n cadw'n ddiogel. Canfu ein hymchwiliad dystiolaeth bod staff o leiafrifoedd ethnig ar gyflog isel hefyd yn wynebu gwahaniaethu a chamdriniaeth yn eu gweithleoedd.
Yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw y gall diffyg data da ganiatáu i wahaniaethu fynd heibio heb i neb sylwi. Mae data gweithlu cadarn yn hanfodol fel bod sefydliadau'n gwybod pwy sy'n gweithio iddynt a beth yw profiadau eu gweithwyr, fel y gallant gymryd camau i roi terfyn ar arfer gwael.
Bydd canfyddiadau ac argymhellion ein hymchwiliad yn helpu i gynnal cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol. Byddwn yn gweithio gyda’r llywodraeth, y GIG, awdurdodau lleol, rheoleiddwyr a darparwyr gofal i sicrhau bod amodau gwaith gweithwyr ar gyflogau is yn y sector hwn yn cael eu gwella a bod eu cyfraniad hollbwysig i’n hiechyd a’n heconomi yn cael ei gydnabod.
Dywedodd Dr Lesley Sawers OBE, Comisiynydd yr Alban CCHD:
Mae diwygiadau sylweddol yn cael eu hystyried yn yr Alban ar hyn o bryd, gan gynnwys sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol a diwygio dyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer cyrff cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i roi ein hargymhellion ar waith a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a amlygwyd gan ein hymchwiliad.
Rydym yn galw ar Lywodraeth yr Alban ac awdurdodau lleol, byrddau iechyd a rheoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol i weithio gyda ni i helpu i sicrhau’r newid sydd ei angen i wella cydraddoldeb yn y sector hanfodol hwn.
Dyweddod Eryl Besse, Comisiynydd Cymru CCHD:
Clywodd ein hymchwiliad fod gan weithwyr o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru ddiffyg ymddiriedaeth yn systemau’r gweithle a’u bod yn ofni ôl-effeithiau negyddol pe byddent yn codi pryderon am amodau gwaith. Roedd rhai wedi profi rhwystrau wrth gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi neu'n cael trafferth dod i wybod am hawliau sylfaenol fel gwyliau a thâl salwch.
Mae ein papur briffio Cymru yn tynnu sylw at nifer o ddatblygiadau diweddar a chyfleoedd sydd ar ddod i wella'r amgylchedd gwaith ar gyfer gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae datblygiadau cadarnhaol diweddar yn cynnwys camau i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal preswyl a chartref a chyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru. Ond bydd angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r pryderon a nodir gennym.
Nodiadau i olygyddion
- Gweledigaeth y CCHD yw cymdeithas sydd wedi’i hadeiladu ar sylfaen cydraddoldeb a hawliau dynol, gan wella bywydau pawb, a helpu pobl ym Mhrydain i fyw’n dda gyda’i gilydd.
- Casglwyd tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad rhwng Rhagfyr 2020 a Mai 2021, ac roedd yn canolbwyntio ar brofiadau gweithwyr o leiafrifoedd ethnig gan ddechrau rhwng Ionawr 2019 a Mai 2021.
- Darparodd 93 o weithwyr lleiafrifoedd ethnig ar gyflog isel yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol dystiolaeth trwy gyfweliadau a grwpiau ffocws. Cwblhawyd arolygon gan 76 o weithwyr yn y sectorau, yr oedd 53 ohonynt yn lleiafrifoedd ethnig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a 23 ohonynt yn staff oedd yn dystion i ddigwyddiadau yn y gweithle.
- Comisiynodd y CCHD asesiad tystiolaeth a edrychodd ar 51 o gyhoeddiadau perthnasol. Cynhaliwyd dadansoddiad o ystod eang o ymchwil ac adroddiadau presennol a oedd yn canolbwyntio ar feysydd a gwmpesir gan y cylch gorchwyl.
- Dadansoddwyd y data gweithlu sydd ar gael yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a chynhaliwyd dadansoddiad ystadegol newydd o setiau data meintiol presennol hefyd.
- Darllenwch y cylch gorchwyl llawn.
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com