Newyddion

Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i Weithio Ymlaen ar hawliau beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith

Wedi ei gyhoeddi: 31 Awst 2017

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu i ddenu, meithrin a chadw menywod yn y gwaith a gwneud ei gweithleoedd y gorau y gallan nhw fod, drwy arwyddo i gynghrair cyflogwyr Gweithio Ymlaen y Comisiwn.

Meddai Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru:

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn rhoi addewid i Weithio Ymlaen ar hawliau beichiogrwydd a mamolaeth. Rwy’n meddwl ei fod yn fenter bwysig dros ben. Rydym eisoes wedi gwneud nifer o newidiadau positif gan gynnwys galluogi menywod i gadw offer TG megis ffonau symudol a gliniaduron yn ystod eu habsenoldeb mamolaeth er mwyn iddyn nhw allu dychwelyd i’r gwaith heb brofi anawsterau yn ogystal â gwella ein trefniadau ariannol i sicrhau bod hyblygrwydd gwell i ariannu ar gyfer ymgymryd â chyfrifoldebau’r sawl sydd ar absenoldeb mamolaeth. Drwy ein Cynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiad rydym wedi ymrwymo i gefnogi menywod drwy gydol eu beichiogrwydd, absenoldeb mamolaeth ac wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith.

“Rhan ein cyfrifoldeb yw hyn fel cyflogwr da a sicrhau y gall menywod wrth ddychwelyd i’r gwaith yn Llywodraeth Cymru ffynnu a chyfrannu gymaint â phosibl.”

Meddai June Milligan, Comisiynydd y Comisiwn a Chadeirydd ei Bwyllgor Cymru: ​​​​​​​

“Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd camau i ddenu, meithrin a chadw menywod yn y gweithle fel rhan o Weithio Ymlaen. Daeth Llywodraeth Cymru yn un o fwy na 150 o sefydliadau i ymrwymo, gan gynnwys cyflogwyr arwyddocaol eraill yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru. Mae’r cam hwn yn ymateb i ymchwil y Comisiwn i weithleoedd a thystiolaeth o ba gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod doniau menywod yn cael eu meithrin a’u gwerthfawrogi.”

Mae Gweithio Ymlaen, a sefydlwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn dilyn ei ymchwil carreg filltir sydd yn dangos bod gwahaniaethu ac anfantais ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn effeithio ar oddeutu 390,000 o fenywod beichiog a mamau newydd ledled Prydain bob blwyddyn.  

Mae’n amlygu bod 71 y cant o fenywod yn dweud eu bod wedi cael profiad negyddol a gwahaniaethol o bosib yn y gwaith er bod y rhan fwyaf o gyflogwyr Cymru (87 y cant) yn dweud eu bod yn gefnogwyr brwd o staff benywaidd yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd ac yn ei chael hi’n hawdd cydymffurfio â’r gyfraith.

Mae aelodau, sydd yn cynnwys cyflogwyr mawr a bach ar draws y sector preifat a’r sector cyhoeddus, yn helpu gyrru newid diwylliannol hir dymor drwy arwyddo i weithredu mewn o leiaf dau faes, gan gynnwys:

  • Arddangos arweinyddiaeth o’r brig i lawr
  • Sicrhau cyflogeion hyderus
  • Hyfforddi a chefnogi rheolwyr llinell
  • Cynnig arferion gweithio hyblyg

Mae mwy na 150 o sefydliadau ledled Prydain yn aelod o Weithio Ymlaen. Mae cyflogwyr Cymru yn cynnwys; Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, BT, Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, Cyngor Sir Gâr,  Coleg y Cymoedd, Deloittes, Dwr Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Ford, Legal & General, Colegau NPT, QLS, Heddlu De Cymru a Wales and West Utilities.

Mae Gweithio Ymlaen yn cynnig adnoddau a deunyddiau i aelodau sydd yn addas i’w hanghenion busnes, a chyfle i ddod yn rhan o gymuned o aelodau sydd yn cynyddu ac yn rhannu awgrymiadau, cyngor a gwybodaeth i wneud profiadau’n well i fenywod beichiog a mamau newydd.

Rhowch eich addewid heddiw i gefnogi yn www.equalityhumanrights.com/workingforward

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

07843325231