Proffil

John Kirkpatrick

Prif Weithredwr

Ynghylch

Cyn ymuno â’r EHRC fel Dirprwy Brif Weithredwr ym mis Hydref 2023, roedd John yn Gyfarwyddwr Cyflawni Ymchwiliadau yn yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach, yn gyfrifol am ymchwilio i’r angen am dariffau mewnforio ôl-Brexit. Cyn hynny bu’n uwch gyfarwyddwr yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, yn gweithio ar faterion rheoleiddio mewn addysg, trafnidiaeth ac iechyd, ac yn arwain swyddogaeth sganio’r gorwel a gwybodaeth y CMA. Mae hefyd wedi gweithio yn y Comisiwn Cystadleuaeth, y Comisiwn Archwilio ac yn y cwmni ymgynghori McKinsey & Company. Roedd ei yrfa gynnar yn yr Adrannau Cyflogaeth ac Addysg. Mae'n eistedd ar Bwyllgor Sicrhau Ansawdd y Swyddfa Myfyrwyr.