Newyddion

IKEA UK yn arwyddo cytundeb cyfreithiol gyda'r corff gwarchod cydraddoldeb i amddiffyn staff rhag aflonyddu rhywiol

Wedi ei gyhoeddi: 23 Mawrth 2023

Mae IKEA UK wedi ymrwymo i gytundeb cyfreithiol gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD), i wella ei bolisïau a’i arferion mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol.

Mae’r ymyrraeth gan reoleiddiwr cydraddoldeb Prydain yn dilyn cwyn am aflonyddu rhywiol ac ymosodiad gan gyn-weithiwr IKEA ac mae’n ymwneud â sut yr ymdriniwyd â’r honiadau gan IKEA UK.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn helpu cyflogwyr i atal gwahaniaethu ac aflonyddu a gall ddefnyddio ei bwerau gorfodi pan fydd digwyddiadau honedig yn cael eu hadrodd.

O dan delerau'r cytundeb cyfreithiol rwymol, mae IKEA UK wedi ymrwymo i adolygu'r ffordd y mae'n ymdrin ag aflonyddu rhywiol a chyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd IKEA UK yn:

  • cyfathrebu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol i bob aelod o staff.
  • gweithio gyda phartner cyfreithiol allanol arbenigol i gefnogi’r sefydliad i adolygu ei bolisïau a’i brosesau yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol, ac i wella ei ymatebion i gwynion.
  • darparu hyfforddiant ar bolisïau a phrosesau gwell, aflonyddu ac aflonyddu rhywiol i staff Adnoddau Dynol a phob rheolwr llinell.

Dywedodd y Farwnes Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Waeth pa mor fawr neu fach, mae pob cyflogwr yn gyfrifol am amddiffyn ei weithlu ac ni ddylid goddef aflonyddu rhywiol.

“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain rydym yn helpu cyflogwyr i ddeall y gyfraith ac rydym yn cymryd camau i’w hatal rhag cael ei thorri. Wrth arwyddo’r cytundeb hwn, mae IKEA UK wedi cymryd cam pwysig tuag at sicrhau bod eu staff yn cael eu hamddiffyn yn well rhag aflonyddu.”

Ymgysylltodd y CCHD ag IKEA UK am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2022, ar ôl cael gwybod am honiad o ymosodiad rhywiol ac aflonyddu yn y gweithle ac mae’n adrodd na chafodd yr honiadau hyn eu trin yn briodol gan reolwyr yn un o’u siopau yn y DU.

Mae cytundeb IKEA UK gyda’r CCHD yn debygol o bara tan fis Awst 2025. Bydd y CCHD yn monitro cydymffurfiaeth IKEA â’r cytundeb, i sicrhau bod yr holl gamau gweithredu’n cael eu cwblhau o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt, a gall ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol fel rheoleiddiwr i orfodi’r cynllun gweithredu.

Parhaodd y Farwnes Falkner:

“Ni ddylai cyflogwyr gymryd yn ganiataol bod lefel isel o adrodd yn golygu nad oes problem gydag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, na bod polisïau a gweithdrefnau yn unig yn ddigon i atal aflonyddu rhag digwydd.

“Mae angen delio ag aflonyddu rhywiol yn ddifrifol iawn. Mae’r hyfforddiant a’r gwaith datblygu a gwblhawyd eisoes yn y siop lle daeth y gŵyn i’r amlwg yn arwydd i’w groesawu o ymrwymiad IKEA i arfer gwell.”

Mae'r CCHD yn annog pob cyflogwr i weithredu i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Gallant dynnu ar ganllawiau’r CCHD, sy’n cynnwys esboniad cyfreithiol ac enghreifftiau ymarferol o sut i atal ac ymateb yn effeithiol i aflonyddu.

Nodiadau i olygyddion

  • I gael datganiad gan IKEA UK ar y cytundeb Adran 23, cysylltwch â Swyddfa'r Wasg IKEA UK: media.lounge.uk@ikea.com neu 0845 225 7126.
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw rheolydd y Ddeddf Cydraddoldeb yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae wedi derbyn 'statws A' fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol gan y Cenhedloedd Unedig.
  • Ein gwaith ni yw gwneud Prydain yn decach. Gwnawn hyn drwy ddiogelu a gorfodi'r cyfreithiau sy'n amddiffyn hawliau pobl i degwch, urddas a pharch.
  • O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae cyflogwyr yn gyfreithiol gyfrifol os yw cyflogai yn cael ei aflonyddu’n rhywiol yn y gwaith gan weithiwr arall ac nad yw’r cyflogwr wedi cymryd pob cam rhesymol i’w atal rhag digwydd.
  • Mae'r CCHD ac IKEA UK wedi cytuno i gytundeb Adran 23 o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Mae hyn yn ymrwymo sefydliad i beidio â thorri cyfraith cydraddoldeb ac yn gyffredinol mae'n cynnwys cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a arweiniodd at yr amheuaeth o ymddygiad anghyfreithlon.
  • Mae'r gwelliannau a gwblhawyd ers hynny yn siop IKEA y deilliodd y gŵyn ohonynt yn cynnwys hyfforddiant mewn ymchwiliadau ac ymdrin â chwynion ar gyfer y tîm Pobl a Diwylliant a rheolwyr llinell, yn ogystal â hyfforddiant ar god ymddygiad IKEA UK ar gyfer yr holl weithwyr.