Cyhoeddiad

Cyflwyniad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar Sail Hil ym Mhrydain Fawr (Gorfennaff 2024)

Wedi ei gyhoeddi: 7 Awst 2024

Diweddarwyd diwethaf: 7 Awst 2024

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae’r adroddiad hwn yn gyflwyniad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil (‘y Pwyllgor CERD’) cyn ei 19eg archwiliad cyfnodol o gydymffurfiaeth y DU â’r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil (y CERD). Cafodd cyflwyniad byrrach i hysbysu’r Rhestr o Themâu (LOT) ar gyfer yr archwiliad hwn ei rannu â’r Pwyllgor CERD ym mis Mai 2024.

Bwriad yr adroddiad hwn yw darparu’r Pwyllgor â thystiolaeth a dadansoddiad gyfoes ar hawliau CERD penodol ym Mhrydain Fawr. Mae ffocws penodol ar:

  • seilwaith trawsbynciol ar gyfer mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail hil  
  • cyfiawnder troseddol
  • hawliau yn y gweithle
  • safonau byw
  • iechyd
  • addysg                

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar feysydd lle mae gwahaniaethau ar sail hil yn parhau i fodoli yng nghyd-destun hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, a diwylliannol o dan y CERD. Mae tlodi a daearyddiaeth yn ffactorau pwysig yng nghyd-destun yr anghydraddoldebau a brofir gan grwpiau ethnig.

Gellir gwaethygu’r ffactorau hyn gan ffactorau eraill sy’n effeithio’n anghymesur ar rai lleiafrifoedd ethnig, megis gwahaniaethau diwylliannol, stereoteipio, anghydbwyseddau grym a gwahaniaethu. Rydym wedi archwilio’r achosion posibl hyn lle bo tystiolaeth ddibynadwy ar gael, gyda’r bwriad o adnabod gweithredoedd wedi eu targedu.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau