Camau cyfreithiol

Herio aflonyddu rhywiol a homoffobia yn y diwydiant lletygarwch

Wedi ei gyhoeddi: 11 Medi 2023

Diweddarwyd diwethaf: 11 Medi 2023

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

Manylion yr achos

Nodwedd warchodedig Rhyw, Cyfeiriadedd rhywiol
Mathau o hawliadau cydraddoldeb Aflonyddu, Aflonyddu rhywiol
Llys neu dribiwnlys Tribiwnlys Cyflogaeth
Mae'r gyfraith yn berthnasol i Lloegr, Cymru
Ein cyfranogiad Cymorth cyfreithiol (adran 28 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006)
Canlyniad Setliad
Meysydd o fywyd Gwaith

Enw achos: H vs Fuller's

Mater cyfreithiol

A oes dyletswydd y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol ar gyflogwyr i atal aflonyddu ar weithwyr benywaidd ifanc?

Cefndir

Roedd yr achos yn ymwneud â honiadau gan gyn-weithiwr benywaidd ifanc a ddioddefodd achosion cyson o aflonyddu rhywiol tra'n gweithio fel cynorthwyydd cegin a gweinyddes yn nhafarn y Fuller's. Bu'r gweithiwr yn destun sylwadau homoffobig a misogynistig gan gynnwys sylwadau am ei hymddangosiad a'i phartner dros gyfnod estynedig o amser tra roedd yn gweithio yn un o dafarndai'r Fuller's.

Honnir, pan gwynodd am y sylwadau, ar ôl eu dioddef am rai misoedd, bu’n destun ymddygiad a sylwadau difrïol pellach.

Pam roedden ni'n cymryd rhan

Rydym yn gweithio i atal aflonyddu ar weithwyr ac yn amlygu achosion lle mae cyflogwyr yn methu â chymryd camau rhesymol i atal eu staff.

Beth wnaethom ni

Darparom gyllid ar gyfer yr hawliad tribiwnlys cyflogaeth.

Beth ddigwyddodd

Daethpwyd i gytundeb setlo a oedd yn cynnwys ymddiheuriad i'r hawlydd am yr ymddygiad a brofodd yn ystod ei chyfnod gyda'r cwmni. Mae Fuller's hefyd wedi cytuno i roi hyfforddiant aflonyddu rhywiol gorfodol ar waith ar gyfer staff cegin a blaen tŷ ar draws eu rhwydwaith cenedlaethol o dafarndai.

Pwy fydd yn elwa

Dywed y mwyafrif helaeth o staff bar a staff gweini eu bod naill ai wedi profi neu wedi gweld ymddygiad rhywiol amhriodol, ac nad ydynt yn cael cymorth gan reolwyr i fynd i’r afael ag ef. Mae’r achos hwn wedi codi amlygrwydd y mater, a’r canlyniadau i gyflogwyr os nad ydynt yn delio ag ef.

Mae Fuller's bellach wedi ymrwymo i gymryd camau i sicrhau bod eu gweithwyr yn cael eu diogelu rhag aflonyddu annerbyniol yn y dyfodol. Dylai pob cyflogwr ddilyn yr enghraifft hon a sicrhau eu bod yn cydnabod ac yn mynd i'r afael â'r mater.

Darllenwch fwy am yr achos yma .

Dyddiad y gwrandawiad

15 Tachwedd 2022

Diweddariadau tudalennau